sut mae'n gweithio

sut mae'n gweithio

sut mae’n gweithio

Mae plant yma yng Nghasnewydd sydd angen i ni wrando – a dyna’n union rydyn ni’n ei wneud. Mae Maethu Cymru Casnewydd yn bodoli er mwyn gwneud y gorau i blant lleol, ac mae hynny’n golygu dod i’w hadnabod, dysgu beth sydd bwysicaf, ac yna eu paru â’r teulu maeth cywir.

Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud ein gorau glas i bobl ifanc Casnewydd, ac os byddwch chi’n dod yn rhiant maeth, byddwch chi’n ymuno â ni ar y daith bwysig hon.

Adult tying childs shoe lace

gwell gyda’n gilydd

Rydyn ni’n rhan o Maethu Cymru – y tîm cenedlaethol o 22 asiantaeth faethu’r Awdurdodau Lleol ledled Cymru. Rydyn ni’n rhannu ein gwybodaeth a’n harbenigedd, oherwydd rydyn ni wir yn credu ein bod ni’n well gyda’n gilydd.

Mae bod yn rhan o’r gymuned faethu hon ledled y wlad yn golygu ei bod hi’n bosibl i ni gynnig lefel y gefnogaeth, yr arweiniad a’r gofal rydyn ni’n ei chynnig. Fel sefydliad nid-er-elw, rydyn ni’n buddsoddi’n llawn yn y bobl sy’n ein gwneud ni yr hyn ydyn ni: ein gofalwyr maeth anhygoel, a’r tîm ymroddedig sy’n eu galluogi i fod y gorau y gallan nhw fod.

Gyda’n gilydd, rydyn ni’n gwneud y dyfodol yn well. Dyna beth rydyn ni’n ei wneud.

beth sy'n ein gwneud ni'n wahanol?

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng Maethu Cymru Casnewydd ac asiantaeth faethu annibynnol? Wel, dydyn ni ddim yn gweithio ar ein pen ein hunain. Rydyn ni’n gweithio ochr yn ochr â thîm pob Awdurdod Lleol yng Nghymru, fel un endid. Mae’n golygu eich bod chi’n cael y gefnogaeth leol sydd ei hangen arnoch, ynghyd â sgiliau ac arbenigedd tîm mwy o lawer.

Mae ein hagwedd yn wahanol hefyd. Dydyn ni ddim yma i wneud elw – mae ein statws nid-er-elw yn golygu ein bod yn ail-fuddsoddi ein holl gyllid. Mae’n ymwneud â gwneud y gorau y gallwn ni, i’r plant yn ein gofal yn ogystal â’u teuluoedd maeth.

Mae pob plentyn yn ein gofal yn unigolyn, a phan fyddwn yn dewis eu teuluoedd maeth newydd byddwn yn ystyried y darlun cyfan – dim cyflymder yn unig sy’n bwysig. Mae’n ymwneud â pharchu cefndiroedd hiliol, crefyddol, ieithyddol a diwylliannol, yn ogystal â sicrhau bod anghenion iechyd a datblygu yn cael eu diwallu.

Mae ein hymrwymiad i aros yn lleol yn rhan o’r broses. Yn wahanol i asiantaethau maethu eraill, byddwn bob amser yn ceisio sicrhau bod plant yn aros yn eu cymunedau pan fydd hynny orau iddyn nhw. Rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw teimlo eich bod chi’n perthyn.

Rhagor o wybodaeth am Maethu Cymru Casnewydd a sut gallwch chi ymuno â ni:

rhagor o wybodaeth am maethu cymru casnewydd a sut gallwch chi ymuno â ni:

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch