Mynegai a gwasanaeth gwybodaeth

O dan Ddeddf Plant 1989, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol gadw cofrestr o blant anabl yn eu hardal.

Yng Nghasnewydd, yr enw ar y gofrestr hon yw'r Mynegai ac fe'i defnyddir i helpu i gynllunio gwasanaethau a rhoi gwybodaeth i rieni plant ag anabledd, hynny yw, unrhyw blentyn neu berson ifanc rhwng 0 ac 17 oed sydd angen cymorth ychwanegol gan wasanaethau, oherwydd:  

  • Anabledd dysgu
  • Anabledd corfforol
  • Byddardod neu nam ar y clyw
  • Dallineb neu olwg rhannol
  • Nam iaith neu leferydd
  • Salwch difrifol, cronig neu salwch sy'n rhoi bywyd yn y fantol
  • Anabledd arall   

Gall plant a'u rhieni ddewis p'un ai i gael eu cynnwys yn y Mynegai neu beidio.

Nid yw'r Mynegai yn rhoi mynediad at fwy o wasanaethau ac nid yw'n cael ei ystyried yn atgyfeirio ar gyfer gwasanaethau.

Nid yw'n gysylltiedig ag unrhyw gofrestr arall ac mae gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw'n gyfrinachol.  

Gwnewch gais i ychwanegu'ch plentyn at y Mynegai a'r Gwasanaeth Gwybodaeth 

Pam ychwanegu'ch plentyn at y Mynegai?

  • Bydd eich plentyn yn cael cerdyn hamdden sy'n ei alluogi i wneud rhai gweithgareddau am ddim yng nghanolfannau hamdden Cyngor Casnewydd
  • Byddwch yn helpu i gynllunio datblygiad gwasanaethau yn y dyfodol
  • Byddwch yn cael cylchlythyr bob tri mis yn rhoi gwybod i chi am grwpiau a gwasanaethau newydd yng Nghasnewydd
  • Cewch gyfle i gael eich holi am faterion sy'n effeithio arnoch chi

Cysylltu

Swyddog Gwybodaeth, Y Tîm Plant Anabl, Serennu, Cwrt Camlas, High Cross, Casnewydd

Ffôn: (01633) 656 656
E-bost: [email protected]