Cymhwysedd

Mae angen i blant a phobl ifanc fodloni un o'r meini prawf o adran A ac un o'r meini prawf o adran B isod cyn y gall gwasanaethau gael eu darparu gan y tîm plant anabl.  

Adran A  

1. Plant a phobl ifanc o dan 18 oed sydd â nam corfforol, dysgu neu synhwyraidd difrifol, gan gynnwys anhwylder ar y sbectrwm awtistiaeth, sy'n gronig ac yn sylweddol. 

Mae anabledd difrifol yn un sy'n golygu:

  • bod ar y plentyn angen cymorth sylweddol gan offer neu berson arall i gyflawni swyddogaethau sylfaenol e.e. gofal personol, bwyta, gofal dros nos, cerdded; 
  • y byddai disgwyl iddo barhau i fod angen cymorth gan offer neu berson arall i gyflawni swyddogaethau sylfaenol pan fydd wedi tyfu'n oedolyn.

2.  Plant a phobl ifanc o dan 18 oed sydd â salwch angheuol neu salwch sy'n rhoi bywyd yn y fantol.

Adran B 

1. Perygl uniongyrchol i blentyn neu berson ifanc a'i natur fregus uniongyrchol.

2. Sefyllfa risg lle mae'r plentyn yn debygol o ddioddef niwed sylweddol.

3. Mae iechyd a datblygiad y plentyn yn debygol o gael eu hamharu neu eu hamharu ymhellach os na chaiff y gwasanaethau eu darparu.

Gallai plant sy'n bodloni'r meini prawf yn Adran A ond nid Adran B2 fod yn gymwys i gael gwybodaeth, cyngor ac arweiniad.