Browser does not support script.
Os oes gan eich plentyn anabledd ac mae angen help arnoch chi, cysylltwch â thîm dyletswydd Cyngor Dinas Casnewydd a fydd yn trosglwyddo'r atgyfeiriad i'r tîm plant anabl.
Mae'r tîm plant anabl yn cynnig gwasanaethau i blant anabl a'u teulu hyd nes bod y person ifanc yn 18 oed.
Gwneir asesiad er mwyn deall anghenion y plentyn, i weld pa wasanaethau fyddai'n fwyaf addas.
Defnyddir meini prawf cymhwysedd fel bod y rhai â'r angen mwyaf yn cael cymorth.
Mae newyddion a digwyddiadau'n cael eu hanfon yn electronig - cofrestrwch i gael newyddion a hysbysiadau gan Gyngor Dinas Casnewydd
Mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael i ofalwyr di-dâl a rhieni plant ag anghenion ychwanegol a/neu anableddau. Mae hyn yn cynnwys cynnig Asesiad Gofalwr. Darllenwch fwy am ein cefnogaeth i ofalwyr.
Allwch chi roi ychydig oriau o’ch amser bob wythnos i helpu plant a phobl ifanc anabl?
Rydym yn chwilio am bobl 17+ oed sy’n gallu rhoi ychydig oriau’r wythnos i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant a phobl ifanc anabl.
Mae ‘Buddies Together’ yn grŵp o wirfoddolwyr sy’n cefnogi pobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau hwyl.
I gael gwybod mwy ac i gofrestru e-bostiwch children.disabilities@newport.gov.uk
Cyngor ar Bopeth - Prosiect Budd-dal Anabledd i Blant
Y Tîm Plant Anabl, Canolfan Blant Serennu, Cwrt Camlas, High Cross, Casnewydd, NP10 9LY
Anfonwch e-bost at children.disabilities@newport.gov.uk neu ffoniwch (01633) 656656