Bathodyn glas

Mae cynllun y Bathodyn Glas yn rhoi consesiynau parcio ar gyfer:

  • pobl ag anawsterau cerdded difrifol, sy'n teithio naill ai fel gyrwyr neu deithwyr
  • pobl sydd wedi'u cofrestru'n ddall
  • pobl sydd ag anabledd difrifol iawn y breichiau, sy'n gyrru cerbyd yn rheolaidd ond na allant droi'r llyw â llaw
  • pobl nad ydynt yn gallu cynllunio a dilyn taith oherwydd nam gwybyddol (e.e. awtistiaeth, dementia, anabledd dysgu, problem iechyd meddwl, anaf i'r pen ac ati)

Mae'r cynllun yn caniatáu i ddeiliaid y bathodyn barcio'n agosach at eu cyrchfan. Darllenwch am ardaloedd parcio i bobl anabl.

Nid oes angen talu am Fathodyn Glas.

Gwirio a ydych chi'n gymwys i gael Bathodyn Glas

Gwirio am eich hawliau a chyfrifoldebau Bathodyn Glas

Gwneud cais am Fathodyn Glas neu ei adnewyddu

Bydd arnoch angen:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • rhif eich Trwydded Yrru
  • ffotograff maint pasbort
  • manylion eich bathodyn presennol, os oes gennych fathodyn

Gwnewch yn siwr eich bod yn gwybod pryd y daw eich bathodyn glas i ben oherwydd ni fydd llythyrau atgoffa am adnewyddu yn cael eu hanfon.

Efallai bydd rhaid i chi lenwi ffurflen wahanol a darparu gwybodaeth wahanol fel y gall Cyngor Dinas Casnewydd benderfynu a oes angen i chi gael asesiad symudedd.

Bydd y Bathodyn Glas yn cael ei bostio atoch chi pan fydd eich cais wedi cael ei brosesu.

Bathodynnau sydd ar goll neu wedi'u dwyn

Rhowch wybod i'r heddlu os yw'ch bathodyn glas wedi'i ddwyn a chael cyfeirnod trosedd, fel y gall bathodyn newydd gael ei roi i chi.

Llenwch ffurflen gais arbennig (pdf) i roi gwybod am fathodyn sydd wedi'i ddwyn, sydd ar goll neu sydd wedi'i ddifrodi.

Bydd bathodyn newydd yn cael ei anfon atoch drwy'r post ar ôl derbyn ffurflen gais wedi'i llenwi.

Cymhwysedd

Gwirio a ydych chi'n gymwys i gael Bathodyn Glas

Gallwch wneud cais am Fathodyn Glas:

  • os ydych chi'n derbyn cyfradd uwch yr elfen symudedd sy'n rhan o'r Lwfans Byw i'r Anabl
  • os ydych chi'n derbyn Atodiad Symudedd Pensiynwyr Rhyfel
  • os ydych chi'n defnyddio cerbyd modur sydd wedi'i gyflenwi gan Adran Iechyd y Llywodraeth ar gyfer pobl anabl
  • os ydych wedi'ch cofrestru'n ddall
  • os oes gennych anabledd difrifol yn y ddwy fraich ac rydych yn gyrru cerbyd modur yn rheolaidd, ond ni allwch droi llyw cerbyd modur hyd yn oed os oes bwlyn troi wedi'i osod ar y llyw
  • os oes gennych anabledd parhaol a sylweddol sy'n golygu na allwch gerdded neu rydych chi'n ei chael hi'n anodd iawn cerdded. Os felly, mae'n bosibl y bydd angen i chi ateb cyfres o gwestiynau er mwyn helpu'r awdurdod lleol i benderfynu p'un a ydych chi'n gymwys i gael bathodyn
  • os ydych chi'n aelod o'r lluoedd arfog, wedi'ch anafu'n ddifrifol, yn cael taliad wedi'i warantu o dan dariffau 1-8 Cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog (AFCS) a thystiwyd bod gennych anabledd parhaol a sylweddol sy'n golygu na allwch gerdded neu sy'n achosi anhawster sylweddol iawn wrth gerdded

Bydd Asiantaeth y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr (SPA) yn anfon llythyr at ymgeiswyr sy'n bodloni'r meini prawf uchod a dylid cyflwyno'r llythyr hwn fel tystiolaeth gyda'r cais am fathodyn glas.

  • Plant o dan 3 oed sydd, oherwydd cyflwr meddygol penodol, angen teithio gydag offer meddygol swmpus neu fod gerllaw cerbyd er mwyn cael triniaeth feddygol ar frys. Bydd y bathodyn yn dod i ben y diwrnod ar ôl pen-blwydd y plentyn yn 3 oed

Rhaid i riant neu warcheidwad wneud cais ar ran y plentyn a bydd bathodyn yn cael ei roi os bydd angen offer meddygol na ellir ei gario'n hawdd.

  • Pobl sy'n gyrru cerbyd sydd heb ei addasu, yn rheolaidd, ond sy'n methu â gweithredu, neu sy'n ei chael hi'n anodd gweithredu, peiriannau talu am barcio neu offer parcio ac arddangos oherwydd namau difrifol yn y ddwy fraich – er enghraifft anableddau sy'n gysylltiedig â Thalidomide

O dan yr amgylchiadau hyn, bydd bathodynnau glas yn cael eu dosbarthu yn ôl disgresiwn yr awdurdod lleol.

Ni fydd bathodyn glas yn cael ei ddosbarthu os bydd yr ymgeisydd yn teithio fel teithiwr neu'n ei chael hi'n anodd cario pethau.

Ni fydd pobl ag anhwylder seicolegol yn gymwys fel arfer, oni bai ei bod hi'n anodd iawn iddyn nhw gerdded.

Mae'n bosibl y bydd mudiadau sy'n gofalu am bobl anabl sy'n bodloni un neu fwy o'r meini prawf gael bathodyn, er bod hyn yn ôl disgresiwn y cyngor.

Cysylltu

Y Gweinyddwr Bathodynnau Glas yng Nghyngor Dinas Casnewydd.

 

Hysbysiad preifatrwydd - Bathodyn glas (pdf)