Camau cyfathrebu

Cwblhewch ein holiadur adborth ar-lein ar gyfer y llyfr 'Sgwrsio gyda fi'

Nid yw byth yn rhy gynnar i helpu i gefnogi gallu siarad eich plentyn. Gallwch chi hyd yn oed ddechrau siarad, darllen a chanu i'ch plentyn tra byddwch chi'n feichiog.

Isod gwelir rhai awgrymiadau ar gyfer pob cam datblygu. 

Bol

Dwi yn eich bol ond dwi'n dal yn gallu eich clywed pan fyddwch chi’n darllen ac yn canu i fi. 

Os ydych chi’n darllen yr un llyfr i mi bob dydd, pan fyddwn ni’n cwrdd, gallwn ni ddarllen y llyfr a bydd yn fy nhawelu.

Siarad, canu a darllen i fi bob dydd. Byddwn i wrth fy modd yn clywed pobl bwysig eraill yn fy mywyd yn darllen, canu a siarad i fi hefyd.

I gael mwy o gyngor ar siarad â’r bol ewch i BBC Tiny Happy People.

Cyfathrebwr da 

Rwy'n cyfleu fy neges drwy wneud llawer o bethau heb ddefnyddio geiriau.  Efallai byddaf i’n pwyntio, yn estyn am rywbeth neu’n rhoi rhywbeth i chi, yn defnyddio ystumiau neu’n dangos i chi yn fy wyneb, yn edrych arnoch chi neu efallai byddaf i’n defnyddio synau.  Mae llawer o bethau y gallaf eu dweud wrthych chi heb ddefnyddio geiriau.

Gwyliwch fi i weld beth dwi'n ceisio ei ddweud wrthoch chi. Dywedwch beth rydych chi'n meddwl roeddwn i’n ceisio’i ddweud, e.e. efallai y byddaf yn edrych arnoch chi i ddangos bod angen help arna i gyda fy jig-so, gallwch chi ddweud wedyn 'Dyma'r beic modur ar gyfer dy jig-so'.

I gael mwy o gyngor ar diwnio i mewn i ddiddordebau eich babi ewch i BBC Tiny Happy People.

Defnyddiwr geiriau cyntaf 

Dwi'n dechrau siarad drwy ddefnyddio geiriau, efallai na fydd y rhain yn glir eto ond dwi'n ceisio defnyddio geiriau unigol i gyfleu fy neges, e.e. 'afal'.

Ailadroddwch y geiriau yn ôl i mi er mwyn i mi glywed y gair yn cael ei ddweud yn gywir ac yna gallwch chi ychwanegu geiriau eraill e.e. 'afal', 'mae’n afal suddlon'.

I gael mwy o gyngor ar sut i helpu’ch plentyn bach i siarad ewch i BBC Tiny Happy People.

Cyfunwr 

Dwi wir yn dod i ddeall hyn nawr ac yn dechrau rhoi dau air at ei gilydd fel 'car mam-gu', 'eisiau llaeth' ac ati.

Gwnewch frawddeg o beth dwi'n ei ddweud, e.e. 'Ie dyma gar mam-gu yn dod', 'rwyt ti eisiau llaeth, dyma dy laeth mae’n oer braf'.

I gael mwy o gyngor ar sut i ymestyn geiriau eich plentyn bach ewch i BBC Tiny Happy People.

Defnyddiwr brawddegau cynnar 

Dwi bron yno achos dwi'n gallu defnyddio brawddegau byr fel 'dwi eisiau mynd i'r parc' erbyn hyn.

Ychwanegwch syniadau newydd at yr hyn dwi'n ei ddweud, e.e. 'Ie, gadewch i ni fynd i'r parc, gallwn fynd ar y siglen ac i lawr y sglefren'.

I gael mwy o gyngor ar helpu plant bach i siarad mewn brawddegau llawn ewch i BBC Tiny Happy People.

Defnyddiwr brawddegau diweddarach 

Dwi bron yn gallu siarad fel chi, gyda brawddegau hir ac efallai byddaf i’n dechrau uno brawddegau gyda geiriau fel 'achos'.

Helpwch fi i ddatblygu fy nealltwriaeth a fy nychymyg drwy siarad am bethau dwi ddim wedi dysgu amdanyn nhw eto.

I gael mwy o gyngor ar gael plant bach yn siarad am y gorffennol ewch i BBC Tiny Happy People.

Cymorth pellach

I gael cymorth pellach ar ddefnyddio chwarae smalio i annog dysgu iaith ewch i BBC Tiny Happy People

I gael mwy o wybodaeth am gamau datblygu iaith ewch i boster Llywodraeth Cymru