Sgwrsio gyda fi
Ynglŷn â ‘Sgwrsio gyda fi’
Yn ein llyfr 'Sgwrsio gyda fi' awn ar anturiaethau cyffrous ar hyd a lled Casnewydd gyda Cas.
Cadwch lygad am lefydd rydych chi'n eu hadnabod, sgwrsio am ble rydych chi wedi bod a llefydd yr hoffech chi fynd, beth wnaethoch chi neu yr hoffech chi ei wneud yno, gadewch i'ch dychymyg fynd yn wyllt.
Wrth ichi rannu'r llyfr hwn â'ch plentyn, gobeithiwn y byddwch chi'n canfod cymaint o bethau i siarad amdanynt â'ch gilydd, a bydd y geiriau hynny'n gweithio rhyfeddodau i'ch plentyn sy'n datblygu ymennydd.
Cwblhewch ein holiadur adborth ar-lein ar gyfer y llyfr 'Sgwrsio gyda fi'
Ymestyn y sgwrs
Am gefnogaeth bellach rydym wedi creu 'olwynion iaith' mae'r rhain yn gymorth ychwanegol wrth ddarllen gyda phlant. Byddant yn galluogi plant a rhieni i gyfathrebu gyda’i gilydd am wahanol themâu o’r llyfr ‘Sgwrsio gyda fi’ ar a pharhau â’r sgwrs oddi ar y dudalen.
Isod mae olwynion iaith pob adran o'r llyfr:
Cefnogi eich plant
Isod gwelir ychydig o gyngor wrth ddarllen a siarad â'ch plant:
Aros: i roi amser i'ch plentyn edrych ar y lluniau ac amsugno’r holl wybodaeth.
Sylwi: beth mae'ch plentyn yn edrych arno neu'n pwyntio ato, a gwrando ar unrhyw beth mae'n ei ddweud.
Ymateb: drwy ddweud rhywbeth am beth mae'ch plentyn yn canolbwyntio arno.
Byddem wrth ein bodd petaech yn parhau â'r antur oddi ar y tudalennau, drwy ymweld â thirnodau amrywiol Casnewydd. I gael mwy o wybodaeth ewch i’n tudalen we llefydd a gweithgareddau.