Manteision darllen
Cwblhewch ein holiadur adborth ar-lein ar gyfer y llyfr 'Sgwrsio gyda fi'
Gall llyfrau fod yn ffordd wych o dreulio amser gyda phlant.
Gall eistedd gyda'ch plentyn helpu i hybu cysylltiad a theimladau o agosatrwydd, gall hyn hefyd hybu amgylchedd tawel i ymlacio cyn amser gwely.
Bydd darllen llyfrau gyda'ch plentyn yn helpu i gefnogi datblygiad ei iaith.
Bydd y geiriau rydych chi'n eu dweud yn cyd-fynd â'r lluniau sy'n helpu'ch plentyn i ddeall beth sy'n cael ei ddweud. Bydd clywed geiriau ailadroddus bob tro y byddwch yn darllen y llyfr yn helpu plentyn i'w dysgu a'u cofio.
Mae llyfrau'n creu'r cyfle i drafod pynciau a themâu na fydd plant efallai'n dod ar eu traws bob dydd.
Gall treulio amser yn edrych ar lyfrau gefnogi plant i baratoi ar gyfer yr ysgol a sgiliau llythrennedd yn y dyfodol.
Gall yr odli mewn llyfrau helpu plant i adnabod y synau sydd eu hangen i lunio geiriau.
Mae rhagor o gymorth ar gael ar BBC Tiny People rhannu llyfrau a rhannu llyfrau llun a stori gyda phlentyn bach.
Mae gwybodaeth a chefnogaeth ychwanegol ar gael ar wefan yr Ymddiriedolaeth Lythrennedd Genedlaethol.