Mae Dechrau'n Deg yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sydd ar gael mewn ardaloedd penodol i gynorthwyo teuluoedd â phlant 0 i 3 oed.
Mae'n hybu sgiliau emosiynol, cymdeithasol, gwybyddol ac iaith, datblygiad corfforol ac yn amlygu anghenion uchel yn gynnar trwy ddarparu cymorth iechyd, grwpiau magu plant, cymorth cynnar ag iaith a gofal plant rhan-amser am ddim.
Ardaloedd
Mae ardaloedd Dechrau'n Deg yn cynnwys rhannau o Allt-yr-yn, Alway, Bettws, Duffryn, Gaer, Lliswerry, Maesglas, Maindee, Malpas, Pillgwenlly, Ringland a Somerton.
Anfonwch e-bost at flying.start@newport.gov.uk gyda'ch enw, cyfeiriad, cod post a chyfeiriad e-bost i weld a yw'ch ardal wedi'i chynnwys.
Mae sesiynau gofal plant a mynediad cysylltiedig at ymwelydd iechyd ar gael.
Os byddwch yn byw yn y dalgylch, byddwch yn gymwys i fanteisio ar y gwasanaethau hyn.
Gofal plant
Mae sesiynau gofal plant yn cael eu cynnal o fewn amgylchedd ysgogol, gofalgar gyda gweithwyr gofal plant sy'n brofiadol ac yn gymwys iawn.
Trwy chwarae, bydd eich plentyn yn dysgu rheolau ymddygiad cymdeithasol yn barod ar gyfer yr ysgol a bywyd.
Gwyddom fod profiad plant yn ystod eu blynyddoedd cynnar yn gallu cael effaith ar weddill eu bywyd.
Rydym wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â rhieni i sicrhau bod y profiadau hyn yn rhai cadarnhaol a hapus i rieni a phlant.
Magu plant
Anfonwch e-bost at flying.start@newport.gov.uk i ofyn am gyrsiau magu plant yn eich ardal neu siaradwch â'ch ymwelydd iechyd neu unrhyw aelod o staff Dechrau'n Deg.
Caiff rhaglenni magu plant eu cyflwyno gan dîm o Swyddogion Darparu Ymyrraeth i Deuluoedd, sy'n gweithio gydag ymwelwyr iechyd Dechrau'n Deg.
Cymorth ag iaith
Mae cyfathrebu ac iaith gynnar yn cael eu cefnogi gan dîm o swyddogion darparu a gweithwyr cymorth chwarae ac iaith, gyda chefnogaeth therapydd iaith a lleferydd.
Mae sesiynau grŵp yn cynnwys:
Siaradwyr bach (Tiny talkers)
Grŵp i rieni a phlant rhwng 9 mis a 2 oed sy'n helpu i ddatblygu sgiliau cyfathrebu ac iaith plant trwy chwarae, canu a gweithgareddau.
Chwarae ac iaith, chwarae a rhif
Sesiwn cylch chwarae wythnosol i blant a rhieni er mwyn cynyddu sgiliau iaith plant gan ddefnyddio storïau, caneuon a gweithgareddau.
Iechyd
Mae byw mewn ardal Dechrau'n Deg yn caniatáu i'ch plentyn a'ch teulu fanteisio ar grwpiau a rhaglenni iechyd, gyda chymorth ac arweiniad o feichiogrwydd hyd nes bod eich plentyn yn bedair oed.
Ymwelwyr iechyd
Mae ymwelydd iechyd Dechrau'n Deg yn cael ei neilltuo i deuluoedd sy'n byw mewn ardal Dechrau'n Deg ac sydd â phlant o dan bedair oed, i helpu plant, teuluoedd a chymunedau i gyrraedd eu potensial a chael yr iechyd a'r lles gorau.
Bydd yr ymwelydd iechyd yn cefnogi'r teulu yn ystod cyfnod cyfan y plentyn gyda'r rhaglen.
Mae baich gwaith ymwelwyr iechyd Dechrau'n Deg yn llai, fel y gallant gynnal ymweliadau rheolaidd a hirach â phlant a'u teuluoedd er mwyn amlygu a bodloni eu hanghenion.
Bydwragedd
Mae bydwragedd Dechrau'n Deg Casnewydd yn annog menywod i ddilyn ffordd iach o fyw cyn-geni ac maen nhw'n cyflwyno negeseuon iach a allai wella iechyd a lles y teulu cyfan.
Mae atgyfeiriadau bydwragedd yn cael eu targedu at y teuluoedd mwyaf agored i niwed, sydd â phroblemau iechyd, personol neu gymdeithasol.
Mae'r bydwragedd yn arwain dosbarthiadau magu plant cyn-geni a grwpiau cefnogi bwydo ar y fron, yn ogystal â chefnogi teuluoedd gartref.
Nyrsys meithrin
Mae nyrsys meithrin Dechrau'n Deg yn cefnogi teuluoedd gartref ac mewn lleoliadau cymunedol, gan gynnig cyngor ar iechyd a gwybodaeth am dylino babanod, bwydo ar y fron, diddyfnu, bwyta'n iach, iechyd deintiol, grwpiau pwyso a chwarae, a chynllun diogelwch yn y cartref Casnewydd.
Ymarferydd iechyd meddwl
Mae'r ymarferydd iechyd meddwl yn cefnogi pobl sy'n dioddef salwch meddwl.
Mae gan Gasnewydd grŵp cymorth i fenywod sy'n dioddef iselder ar ôl geni a gwasanaeth cwnsela sy'n cefnogi teuluoedd.
Cysylltu
Gofynnwch am dîm Dechrau'n Deg Cyngor Dinas Casnewydd.
E-bost flying.start@newport.gov.uk
Hoffwch ni ar Facebook
Dilynwch ni ar Twitter