Cefnogi plant i gael mynediad i ofal plant

Cymorth i blant sy'n cael mynediad at ofal plant  

Blynyddoedd Cynnar Cymru yn deall yr anawsterau a wynebir gan blentyn sydd angen cymorth ychwanegol i ymuno â lleoliad gofal plant gyda phlant eraill.

Gall y Cynllun Atgyfeirio Anghenion Ychwanegol helpu os yw teuluoedd yn ei chael hi'n anodd deall ymddygiad, gweithredoedd neu anghenion eu plentyn, drwy helpu i ddod o hyd i gylch chwarae, meithrinfa neu warchodwr plant sy'n gallu diwallu anghenion y plentyn. 

Gall y cynllun ddarparu cymorth ychwanegol ar ffurf gweithiwr un-i-un, cymorth mewn grŵp llai o blant i helpu gyda datblygiad y plentyn neu ganllawiau ymarferol i'r lleoliad gofal plant, yn ogystal â chyfeirio at wasanaethau ac asiantaethau eraill a allai gefnogi plentyn.

Mae'r teulu a'r plentyn wrth wraidd y cynllun, gan sicrhau bod y plentyn yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd. 

Bydd ceisiadau'n cael eu hystyried gan banel yn dilyn proses atgyfeirio a bydd arian yn destun cyfyngiadau cyllidebol.  

Mae'r cynllun ar gael drwy ffurflen atgyfeirio y gellir ei chael gan y Cydlynydd Anghenion Ychwanegol Blynyddoedd Cynnar Cymru ar 01633 271528 neu [email protected]

Lawrlwythwch taflen Anghenion Ychwanegol Blynyddoedd Cynnar Cymru (pdf) i gael rhagor o fanylion am sut mae’r cynllun yn gweithio.

Cymorth Lleoedd 

Mae Blynyddoedd Cynnar Cymru hefyd yn rhedeg cynllun cymorth lleoedd. 

Mae'r cynllun Cymorth Lleoedd yn helpu teuluoedd sy'n byw mewn caledi ariannol i gael mynediad at ofal plant fel y gallant weithio neu chwilio am waith neu hyfforddiant. 

Cynigir cymorth ariannol i deuluoedd ar incwm isel neu sy'n derbyn budd-daliadau yn unig neu deuluoedd sy'n profi amgylchiadau eithriadol fel salwch difrifol, materion iechyd meddwl neu anawsterau dysgu. 

Bydd angen i rieni ddangos tystiolaeth eu bod yn gallu bodloni'r meini prawf cyn cytuno ar gyllid a dylai lleoliadau sicrhau bod ceisiadau'n cael eu cwblhau'n fanwl er mwyn osgoi oedi.  

Bydd ceisiadau'n cael eu hystyried gan banel a bydd arian yn fwyaf tebygol o gael ei ddyfarnu fel rhan o'r taliad tuag at gostau gofal plant a bydd yn destun cyfyngiadau cyllidebol. 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan Blynyddoedd Cynnar Cymru ar 01633 271528 neu [email protected]