Darpariaeth Chwarae Gwyliau (5-12 oed)
Yn ystod hanner tymor mis Mai, bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn cynnig darpariaeth chwarae sesiynol i blant 5-12 oed, rhwng dydd Llun 30 Mai a dydd Mercher 1 Mehefin 2022.
Cynigir darpariaeth ym mhob un o bedair ardal hyb cymdogaeth Casnewydd:
- Yr Hyb Canolog – yn gwasanaethu Pilgwenlli, Maendy, Stow Hill ac Allt-yr-ynn.
- Hyb y Dwyrain – yn gwasanaethu Ringland, Alway, Somerton, Llyswyry, Beechwood, Sain Silian, Langstone ac Underwood.
- Hyb y Gogledd – yn gwasanaethu Betws, Malpas, Shaftesbury a Chaerllion.
- Hyb y Gorllewin – yn gwasanaethu Maesglas, Y Gaer, Graig, Dyffryn, Tŷ-du a Maerun.
Gellir dewis y ganolfan sy’n well gennych wrth wneud cais; fodd bynnag, ni allwn warantu y bydd hyn ar gael. Trefnir lleoliadau penodol ar gyfer y ddarpariaeth hanner tymor i ateb y galw cyn belled ag y bo modd. Os bydd gormod o geisiadau am y ddarpariaeth, bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin.
Sylwer bod yn rhaid cadw lleoedd ar-lein ymlaen llaw. Ni allwn groesawu plant sy'n dod heb gadw lle trwy'r system ymgeisio ar-lein – manylion isod.
Gweld manylion sesiynau chwarae hanner tymor mis Mai (pdf)
Pwy all wneud cais?
- Mae’n rhaid i'r teulu fod yn byw yn ardal awdurdod lleol Casnewydd
- Rhaid i'r plentyn fod yn 5-12 oed
Gellir ychwanegu manylion anghenion ychwanegol at y cais – bydd y tîm Datblygu Chwarae yn adolygu'r rhain ac yn cysylltu â'r rhiant/gofalwr i gael rhagor o fanylion os oes angen. Ar gyfer plant ag anghenion mwy cymhleth, dylai rhieni/gofalwyr siarad ag ysgol neu weithiwr cymdeithasol eu plentyn a gofyn am atgyfeiriad.
Rydym wrthi’n adolygu cyfleoedd ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg.
Proses ymgeisio
Mae'r broses ymgeisio bellach ar agor a bydd yn 16 Mai 2022.
Bydd angen y canlynol arnoch:
- Manylion y plentyn gan gynnwys manylion unrhyw anghenion ac alergeddau ychwanegol;
- Manylion rhieni/gofalwyr gan gynnwys gwybodaeth am gysylltiadau brys;
- Dewis lleoliad;
- Dogfennau ategol
- Tystysgrif geni'r plentyn i gadarnhau oedran y plentyn
- Y datganiad treth gyngor diweddaraf neu fil trydan/nwy/dŵr diweddar i gadarnhau preswyliad yng Nghasnewydd
Bydd rhieni/gofalwyr yn derbyn cadarnhad o le eu plentyn trwy e-bost erbyn dydd Llun 23 Mai 2022.
Ni ddylai unrhyw blentyn sy'n profi symptomau’r coronafeirws neu sydd wedi cael cyngor i hunanynysu fynychu'r ddarpariaeth chwarae.