Cynnig gofal plant
Mae cynnig gofal plant Llywodraeth Cymru wedi bod ar gael ym mhob ardal yng Nghasnewydd ers mis Hydref 2018.
Cynigir hyd at 30 awr o addysg a gofal plant ar y cyd i rieni cymwys i blant rhwng 3 a 4 oed, sy’n gweithio, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.
Mae’r cynnig ar gael i blant o’r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn dair oed tan y mis Medi ar ôl eu pen-blwydd yn bedair oed* pan gânt gynnig lle mewn addysg llawn amser.
Mae’r cynnig gofal plant ar wahân i’r cais am le mewn addysg feithrin (a elwir weithiau yn ‘addysg gynnar’ neu ‘codi’n 3 oed’).
I gael 30 awr o ofal plant yn ystod y tymor, mae angen i chi fod wedi gwneud cais am y cynnig gofal plant ac addysg feithrin a chael eich cymeradwyo am hyn.
Yn ystod y naw wythnos o wyliau, mae’r 30 awr llawn ar gael dan y cynnig gofal plant yn unig.
*Bydd plant sy’n troi’n 3 rhwng 1 Ionawr a 31 Mawrth yn gymwys i ddechrau’r Cynnig Gofal Plant o dymor yr Haf.
Bydd plant sy’n troi’n 3 oed rhwng 1 Ebrill a 31 Awst yn gymwys i ddechrau’r Cynnig Gofal Plant o dymor yr Hydref ymlaen.
Bydd plant sy’n troi’n 3 oed rhwng 1 Medi a 31 Rhagfyr yn gymwys i ddechrau’r Cynnig Gofal Plant o dymor y Gwanwyn ymlaen.*
I gael manylion llawn am y cynnig, cymhwysedd a sut i wneud cais ewch i wefan llyw.cymru.

Cyswllt
Ffoniwch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Casnewydd ar 01633 210842 neu e-bostiwch family.informationservice@newport.gov.uk