Teuluoedd Hyderus a Meithringar
Mae'r gwasanaeth Teuluoedd Hyderus a Meithringar yn bartneriaeth rhwng Barnardo's a Chymorth i Fenywod Casnewydd. Fel rhan o Agenda Gwrthdlodi Llywodraeth Cymru, mae gan y prosiect Sgiliau Hyderus a Meithringar ddull 'sy'n Canolbwyntio ar y Teulu' o gefnogi teuluoedd i gymryd camau cadarnhaol yn eu bywydau.
Nodau’r gwasanaeth yw:
- Cydnabod ac adeiladu ar gryfderau rhianta a chynyddu gwydnwch, hyder a meithrin o fewn teuluoedd.
- Helpu i ddatrys gwrthdaro teuluol ac annog perthnasoedd iach a rhwydweithiau cymorth.
- Cefnogi, grymuso a chyfeirio teuluoedd i gael mynediad at wasanaethau ac adnoddau yn eu cymunedau.
Mae’r gwasanaeth yn darparu:
- Cymorth un-i-un wedi'i deilwra i'r teulu cyfan
- Rhaglenni grŵp penodol sy'n ymwneud â rhianta a pherthnasoedd iach
- Cyfeirio a chefnogi teuluoedd i gael mynediad at wasanaethau lleol ac adnoddau cymunedol megis cyngor ar dai, grwpiau chwarae neu ddarparwyr dysgu.
Mae'r gwasanaeth yn darparu amrywiaeth o ymyriadau sy'n canolbwyntio ar adeiladu ar rianta cadarnhaol a grymuso teuluoedd i gynnal perthynas deuluol iach.
Cyswllt
I gysylltu â'r tîm, llenwch y ffurflen atgyfeirio ar waelod y dudalen hon.
Clwb Chwarae
Mae Clybiau Chwarae yn rhedeg yn ystod y tymor i blant 5-12 oed. Mae'r sesiynau'n rhedeg am uchafswm o ddwy awr mewn lleoliadau amrywiol ledled Casnewydd.
Mae ein holl Glybiau Chwarae yn annog chwarae dan arweiniad plant, lle mae'r plant yn rhydd i ddewis pa weithgareddau maent yn cymryd rhan ynddynt. Mae'r gweithgareddau'n cynnwys chwaraeon, celf a chrefft, adeiladu den, chwarae anniben a chwarae risg. Mae ein holl ddarpariaethau'n canolbwyntio ar y plentyn ac felly'r plant yw'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau o ran chwarae.
Mae ein Clybiau Chwarae yn rhai mynediad agored - gall plant ddod a mynd ar unrhyw adeg yn ystod yr oriau a nodir er y gofynnir i rieni gyfarwyddo eu plentyn i beidio â gadael y safle heb ddweud wrth weithiwr chwarae.
Nid yw Cyngor Dinas Casnewydd yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am ofal, rheolaeth a goruchwyliaeth plant sy'n teithio i'r Clwb Chwarae neu ar ôl iddynt adael y safle.
Os oes gan eich plentyn ofynion penodol ac y bydd angen cymorth ychwanegol arno i gael mynediad at unrhyw un o'r gwasanaethau uchod, cysylltwch â ni. Rhaid i rieni/gofalwyr lenwi ffurflen gofrestru cyn i'w plentyn fynychu.
Amseroedd a lleoliadau'r Clwb Chwarae
Mae Clybiau Chwarae yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd oherwydd cyfyngiadau Covid-19
Beth gallwch ei ddisgwyl
Cynhelir cyfarfodydd dyrannu wythnosol ac, unwaith y dyrennir yr atgyfeiriad, bydd gweithiwr cymorth i deuluoedd yn cysylltu â chi i drefnu apwyntiad cyfleus i drafod eich anghenion, gan edrych ar y cryfderau a'r adnoddau sydd gennych chi a'ch teulu eisoes.
Gyda'n gilydd byddwn yn llunio cynllun cymorth ar gyfer eich teulu, gan weithio'n hyblyg, ac yn darparu gwasanaeth sy'n cyd-fynd â'ch anghenion a'ch ymrwymiadau.
Llenwch ffurflen atgyfeirio a'i dychwelyd i families.1st@newport.gov.uk a bydd y tîm mewn cysylltiad.
Lawrlwythwch Ffurflen hunanatgyfeirio Teuluoedd yn Gyntaf (doc)
Lawrlwythwch Ffurflen atgyfeirio gweithiwr proffesiynol Teuluoedd yn Gyntaf (doc)
Gweler yr hysbysiad preifatrwydd (pdf)
Cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth e-bostiwch play.development@newport.gov.uk neu ffoniwch 01633 656656.