Mynwentydd

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn gyfrifol am dair mynwent gyhoeddus:

  • Caerllion – Cold Bath Road, Caerllion NP18 1NF
  • Christchurch – Christchurch Road, Casnewydd NP18 1JJ
  • Gwynllyw/St Woolos – 48 Bassaleg Road, Casnewydd, NP20 3PY

Byddwch yn ystyriol o alarwyr ac ymwelwyr eraill: gyrrwch yn ofalus bob amser a pharcio'n barchus.

Mynediad i fynwentydd   

Mynwentydd Sant Gwynllwg ac Eglwys y Drindod: gatiau mynediad i gerddwyr a cherbydau ar agor saith diwrnod yr wythnos.  

Sant Gwynllwg: mae mynediad i gerbydau drwy’r gatiau ger Porthdy Bassaleg Road. Bydd y gatiau ger Porthdy Risca Road yn parhau ar gau (fel ar benwythnosau a gwyliau banc) oherwydd y mynediad cul.

Eglwys y Drindod: nid oes mynediad i gerbydau drwy’r gatiau wrth Christchurch Lodge oherwydd gwaith cynnal a chadw. Mae mynediad i gerbydau drwy’r gatiau ger trosbont yr M4. 

Mynwent Llanfarthin:

Mynediad i gerddwyr saith diwrnod yr wythnos  (nid yw’r gatiau i gerddwyr wedi'u cloi).

Mynwent Caerllion:

Gatiau mynediad i gerddwyr a cherbydau ar agor saith diwrnod yr wythnos.  


 

Ar gyfer ymholiadau, cysylltwch ag uwch-arolygydd y fynwent ar (01633) 414915 neu cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd.  

Lawrlwytho Canllawiau Rheoli Mynwentydd Casnewydd (pdf)

Lawrlwytho Rheoliadau Mynwentydd a Gerddi Gorffwys (pdf)

Ewch i wefan Amlosgfa Gwent 

Trefniadau angladd

Lawrlwythwch yr Hysbysiad Claddedigaeth (Word doc)

Taliadau claddu

Lawrlwythwch y rhestr lawn o daliadau mynwent Casnewydd 2024/2025 (pdf)

Ffurflenni - hawl claddu unigryw 

Lawrlwythwch y Cais Hawl Claddu Unigryw (Word doc)

Lawrlwythwch y Cais Adnewyddu ac Estyniad (Word doc)

Lawrlwythwch y Cytundeb Perchnogaeth (Word doc)

Lawrlwythwch y Cytundeb Indemniad (Word doc)

Lawrlwythwch y Ffurflen Datganiad Statudol (Word doc)

Lawrlwythwch y Ffurflen Newid Manylion (Word doc)

Lawrlwythwch y Ffurflen Trosglwyddo Perchnogaeth (Word doc)

Lawrlwythwch y Gweithred Ildio (Word doc)

Lawrlwythwch y Cais Mainc Goffa (Word doc)

Lleoli llain gladdu

I ddod o hyd i lain gladdu yn y mynwentydd uchod ysgrifennwch at:

Cyngor Dinas Casnewydd, Y Ganolfan Ddinesig, Godfrey Road, Casnewydd, NP20 4UR

Neu e-bostiwch [email protected], gan roi enw'r person a dyddiad claddu bras.  

Codir tâl am 30 munud o ymchwil. Gweler y rhestr lawn o daliadau mynwent Casnewydd 2021/2022 (pdf)

Cystadleuaeth gwaith celf – ffenestri capel

Rydym yn gwahodd trigolion, artistiaid a meddyliau creadigol o bob oed i gymryd rhan yn ein cystadleuaeth gwaith celf ffenestri capel.

Fel rhan o’r gystadleuaeth, bydd y gwaith celf buddugol yn cael ei arddangos ar gloriau dros dro ffenestri'r capel ym Mynwent Sant Gwynllyw, wrth i’r gwaith adfer gael ei wneud arnynt.

Gofynnir i gynigion ddefnyddio'r pethau a geir yn y fynwent ei hun fel ysbrydoliaeth, boed hynny’n fywyd gwyllt, gwrthrychau hanesyddol, y dirwedd, unrhyw beth sy'n tanio'ch creadigrwydd!

Gall y gwaith celf fod naill ai'n ffotograffig neu'n seiliedig ar ddarluniau, ac mae'r gystadleuaeth yn agored i bawb.

Rhaid cyflwyno ceisiadau drwy [email protected] erbyn dydd Gwener, 1 Mawrth.

Dylech gynnwys eich enw, oedran, disgrifiad byr o'ch gwaith celf, a'r hyn sydd wedi’ch ysbrydoli.

Lawrlwythwch y templed gwaith celf ffenestri

Gorchymyn rheoli cŵn

Mae yna orchymyn rheoli cŵn ar waith ym mhob mynwent yng Nghasnewydd.

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd ar 01633 656656

 TRA 143612