NR3

Cofrestr Genedlaethol Gwrthod a Diddymu Trwyddedau Tacsis (NR3)

Bwriad y Gofrestr Genedlaethol newydd ar gyfer achosion o Wrthod a Diddymu Trwyddedau Tacsis (NR3) yw atal gyrwyr y mae eu trwydded cerbyd hacni neu gerbyd llogi preifat (PHV) wedi cael ei diddymu neu y mae eu cais wedi cael ei wrthod, rhag mynd i awdurdod arall i sicrhau trwydded drwy dwyll wrth fethu â datgelu hanes trwyddedu blaenorol. 

Bydd NR3 yn caniatáu i awdurdodau trwyddedu rannu manylion unigolion y mae eu trwydded wedi’i diddymu neu y mae eu cais wedi’i wrthod. 

Dechreuodd Cyngor Dinas Casnewydd ddefnyddio’r NR3 ar 1 Mawrth 2019, ac o’r dyddiad hwnnw:  

  • bydd pob cais am drwyddedau Cerbyd Hacni/PHV ac am adnewyddu trwyddedau’n cael ei wirio ar yr NR3 
  • bydd pob achos o ddiddymu trwydded neu wrthod cais am adnewyddu trwydded newydd yn cael ei gofnodi ar yr NR3

Bydd gwybodaeth hanesyddol am achosion o wrthod a diddymu trwyddedau am hyd at 25 mlynedd yn cael ei hychwanegu at y gofrestr.

Gall data perthnasol sy’n cael eu rhoi ar yr NR3 yn ymwneud â deiliaid trwydded presennol gael eu hystyried yn rhan o brosesau adnewyddu yn y dyfodol. 

Y canlynol fydd yr unig wybodaeth fydd yn cael ei chofnodi ar yr NR3: 

  • enw
  • dyddiad geni
  • cyfeiriad a manylion cyswllt
  • rhif yswiriant gwladol
  • rhif trwydded yrru
  • y penderfyniad
  • dyddiad y penderfyniad
  • y dyddiad y daeth y penderfyniad i rym

Bydd y wybodaeth yn cael ei chadw ar yr NR3 am 25 mlynedd.  

Os daw manylion ymgeisydd i’r golwg ar yr NR3 wrth chwilio bydd yn cael ei ganlyn ar wahân rhwng yr awdurdodau. 

Er y bydd angen i awdurdodau trwyddedu ystyried pob cais ar ei rinweddau ei hun o hyd, bydd cyflwyno’r NR3 yn helpu i sicrhau bod modd iddynt wneud hynny yn seiliedig ar yr holl wybodaeth berthnasol. 

Diogelu Data 

Bydd yr holl waith prosesu a rhannu data a gyflawnir gan Gyngor Dinas Casnewydd ar yr NR3 a chydag awdurdodau eraill mewn perthynas â chofnodion ar yr NR3 yn cael ei gynnal yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).

Y sail gyfreithiol dros brosesu’r wybodaeth hon yw ei bod yn angenrheidiol at ddibenion cyflawni tasg sy’n cael ei wneud er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a roddwyd i’r awdurdod trwyddedu, hynny yw, asesu a yw unigolyn yn berson addas a phriodol i gynnal trwydded cerbyd hacni neu PHV.

Ni fwriedir i’r data NR3 gael eu trosglwyddo y tu allan i’r DU. 

Os hoffech godi unrhyw faterion sy’n ymwneud â’r ddeddfwriaeth diogelu data, gan gynnwys dibynnu ar unrhyw hawliau a roddwyd i wrthrychau’r data dan GDPR, gallwch wneud hynny drwy ffonio Swyddog Diogelu Data Cyngor Dinas Casnewydd ar (01633) 656656. 

Mae gennych hawl i wneud cwyn hefyd i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth  

TRA100377 5/4/2019