Trwydded gwaith stryd
Gwneud cais ar gyfer trwydded Adran 50
O dan y Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd, mae trwydded Adran 50 yn caniatáu i berson heb hawl statudol, osod, cadw a symud cyfarpar ar y stryd a gwneud gwaith sy'n angenrheidiol at y diben hwnnw.
Adran 50 o’r Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd ac Atodlen 3 i’r Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd sy'n llywodraethu'r system drwyddedau.
Mae'r trwyddedai i bob pwrpas yn gweithredu fel ymgymerwr statudol ac wedi ei lywodraethu gan y rhwymedigaethau a osodir dan y Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd, y Ddeddf Rheoli Traffig (TMA) a rheoliadau eraill.
Rhaid i Gyngor Dinas Casnewydd gadw cofnod o'r holl waith stryd a chyfarpar a osodwyd dan drwyddedau y mae wedi'u rhoi.
Rhaid cynnwys manylion trwyddedau yn y Gofrestr Gwaith Stryd.
Meini prawf cymhwysedd
Rhaid i geisiadau gael eu gwneud gan berchennog y cyfarpar arfaethedig a/neu'r tir y bydd y cyfarpar yn ei wasanaethu.
Bydd angen i ymgeiswyr ystyried a derbyn y cyfrifoldebau a roddir ar ddeiliad trwydded a darparu:
- Manylion llawn y cyfarpar arfaethedig gan gynnwys y math, y diben, y dull adeiladu a'r lleoliad
- Tystiolaeth o Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus sy'n ddilys drwy gydol y drwydded arfaethedig am isafswm yswiriant o £10,000,000
- Cadarnhau mai nhw yw perchennog y cyfarpar/tir
Crynodeb rheoliad
Mae'n ofynnol i ddeiliad trwydded:
- Gysylltu â phob sefydliad a allai fod â diddordeb yn y briffordd (cwmnïau cyfleustodau, goleuadau stryd ac ati) i roi gwybod iddynt am y cynnig, gofyn am wrthwynebiadau neu bryderon a chael copïau o'r cyfarpar presennol yn y lleoliad dan sylw. Mae copïau o'r ffurflenni angenrheidiol wedi'u cynnwys yn y cais.
- Sicrhau bod gwaith yn cael ei gynllunio'n gywir a'i wneud mewn modd amserol
- Sicrhau bod yr holl amodau a gymhwysir ar y drwydded yn cael eu cyflawni
- Rhoi gwybod i'r awdurdod priffyrdd am unrhyw faterion sy'n codi
- Sicrhau bod y cyfarpar yn cael ei gynnal a'i gadw ac nad yw'n achosi perygl i'r cyhoedd na niwed i'r seilwaith priffyrdd gan gynnwys cyfarpar arall
- Indemnio'r awdurdod priffyrdd yn erbyn pob hawliad gan gynnwys anaf, difrod neu golled sy'n deillio o unrhyw agwedd ar y cyfarpar neu'r strwythur gan gynnwys gosod, cynnal a chadw a symud, a hefyd o ganlyniad i bresenoldeb y cyfarpar neu'r strwythur. Felly, mae angen bod yswiriant addas ar waith ar gyfer oes y drwydded a bod yswirian o £10,000,000 o leiaf yn ei le ar gyfer pob hawliad heb unrhyw derfyn ar nifer yr hawliadau
- Sicrhau bod y drwydded yn cael ei throsglwyddo'n gywir i drydydd parti os gwerthir y tir/cyfarpar
Mae ffioedd yn daladwy ar adeg gwneud cais a gellir cymhwyso amodau pellach yn ychwanegol at yr amodau safonol.
Y ffi bresennol yw £660.
Ymgeisio
Lawrlwythwch y Ffurflen gais am drwydded Gwaith Stryd (pdf)
Ein nod yw prosesu'r cais o fewn pedwar diwrnod ar ddeg, os nad ydych wedi clywed erbyn y pedwar diwrnod ar ddeg cysylltwch â ni.
Cyswllt
E-bostiwch street.works@newport.gov.uk neu ffoniwch (01633) 656656 gydag unrhyw ymholiadau.