Mathau o safleoedd carafanau neu wersylla

Mae parciau carafanau preswyl parhaol dan berchnogaeth breifat ac yn cael eu meddiannu gan breswylwyr parhaol neu rhannol barhaol.

Gall safleoedd fod â chymysgedd o gartrefi symudol preswyl a charafanau gwyliau.

Maent wedi'u trwyddedu o dan Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 ac maent angen caniatâd cynllunio.

Mae gan safleoedd carafanau teithiol leiniau a ddefnyddir gan wahanol garafanau teithiol.

Rhaid i safleoedd carafanau teithiol sy'n gweithredu mwy na 42 diwrnod yn olynol neu am fwy na 60 diwrnod o ran cyfanswm mewn unrhyw 12 mis yn olynol gael trwydded a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Safleoedd Carafanau a Rheoli Datblygiad 1960 Adran 3.

Mae safleoedd sy’n gweithredu am fwy na 28 diwrnod y flwyddyn angen caniatâd cynllunio.

Mae gan safleoedd carafanau gwyliau parhaol garafanau sydd wedi ei gosod yn barhaol ar y safle, a chaiff y rhain eu gosod i ymwelwyr.

Mae angen caniatâd cynllunio a rhaid i’r safle gael ei drwyddedu dan y  Ddeddf Safleoedd Carafanau a Rheoli Datblygiad 1960 Adran 3.

Dim ond pebyll a geir mewn safleoedd gwersylla pebyll, ac mae’r rhain angen trwydded os yw'r safle'n gweithredu am fwy na 42 diwrnod yn olynol neu am fwy na 60 diwrnod mewn unrhyw 12 mis yn olynol.

Mae angen trwydded o dan adran 269 Deddf Iechyd y Cyhoedd 1936.