Trwydded safle

Mae angen trwydded safle i gyflenwi alcohol a gwerthu bwydydd a diodydd poeth rhwng 11pm a 5am, neu i ddarparu adloniant rheoledig, gan gynnwys:

  • perfformiad theatrig
  • dangos ffilm
  • digwyddiad chwaraeon dan do
  • bocsio neu reslo (y tu mewn neu'r tu allan)
  • cerddoriaeth fyw
  • cerddoriaeth wedi'i recordio
  • dawns
  • cyfleusterau ar gyfer creu cerddoriaeth
  • cyfleusterau dawnsio

Rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 oed neu'n hŷn.

Gwneud cais am Drwydded Safle 

Apply for a Premises Licence

Replacement Premises Licence

Lawrlwythwch fersiwn Word o'r ffurflen gais am drwydded safle

Os ydych eisiau cyflenwi alcohol, rhaid i chi hefyd enwi rhywun sy'n dal Trwydded Bersonol yn oruchwylydd dynodedig safle. 

Gweld y ffioedd trwyddedu cyfredol

Rhaid anfon copi llawn o'r cais a'r cynllun at bob un o'r awdurdodau cyfrifol (pdf), ac mae gan bob awdurdod 28 diwrnod i ymateb i'r adran drwyddedu.

Rhaid i ymgeiswyr hysbysebu'r cais y tu allan i'r safle ac mewn papur newyddion lleol.

Y broses

Os nad oes unrhyw gynrychioliadau, rhaid i'r awdurdod trwyddedu (Cyngor Dinas Casnewydd) ganiatáu'r cais, yn ddarostyngedig i unrhyw amodau.

Os bydd cynrychioliadau, bydd y Pwyllgor Trwyddedu yn ystyried y cais. 

Gwneud cais i amrywio trwydded safle

Gall deiliaid trwydded wneud cais i amrywio'r drwydded i enwi unigolyn yn oruchwylydd dynodedig safle neu i amrywio'r amodau a'r caniatâd. 

Gwneud cais i amrywio'r Goruchwylydd Safle Dynodedig

DS: bydd angen i chi hefyd lenwi ffurflen gais i fod yn oruchwylydd safle dynodedig

Gwneud cais i drosglwyddo trwydded safle 

DS: bydd angen i chi hefyd lawrlwytho ffurflen gais i drosglwyddo trwydded safle (ar ffurf MS Word). Rhaid i'r ffurflen hon gyd-fynd â'r cais i drosglwyddo a chael ei llofnodi gan ddeiliad presennol y drwydded safle.  

Darllenwch am fân amrywiadau i drwyddedau safle neu dystysgrifau safle clwb

Gwrthod ac apelio

Os bydd cais am drwydded yn cael ei wrthod neu ei addasu yn dilyn gwrandawiad, neu os caiff amodau eu hychwanegu, gellir cyflwyno apêl o fewn 21 diwrnod o'r hysbysiad i'r canlynol:

Prif Weithredwr yr Ynadon
Llys Ynadon Gwent
2il Lawr, Tŷ Gwent
Sgwâr Gwent
Cwmbrân
NP44 1PL

Adolygu trwydded

Gall parti â buddiant neu awdurdod cyfrifol ofyn i awdurdod trwyddedu adolygu Trwydded Safle os credir bod un neu fwy o'r amcanion trwyddedu'n cael eu tanseilio.

Bydd cais am adolygiad o'r fath yn cael ei hysbysebu gan y cyngor am 28 diwrnod a bydd yr awdurdod trwyddedu'n cynnal gwrandawiad i benderfynu ar y cais.

Cod ymarfer da 

Mae'r Cod Ymarfer Da (pdf) yn rhoi arweiniad i ymgeiswyr a deiliaid trwydded ar ymarfer da o ran hybu'r pedwar amcan trwyddedu, ac mae'n cyd-fynd ag arweiniad y Swyddfa Gartref a gyhoeddwyd o dan Adran 182 y Ddeddf a Datganiad Polisi Trwyddedu'r cyngor. 

Mae'r cod yn amlinellu'r hyn a ddisgwylir gan ymgeiswyr wrth gyflawni eu hamserlenni gweithredu a'r hyn a ddisgwylir gan ddeiliaid trwydded wrth gynnal eu safle yn unol â thelerau trwydded safle.

Disgwylir i ymgeiswyr a deiliaid trwydded ymrwymo'n rhagweithiol i atal problemau rhag digwydd mewn safleoedd trwyddedig trwy fabwysiadu'r cod hwn.

Cysylltu

Anfonwch e-bost at [email protected] neu cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd a gofynnwch am y tîm trwyddedu.