Mân amrywiadau

Gall newidiadau bach gael eu gwneud i drwydded safle neu dystysgrif safle clwb gan ddefnyddio'r broses mân amrywiadau, sy'n rhatach, yn haws ac yn gynt na'r broses amrywio lawn.

Ystyr mân amrywiad yw amrywiad na fyddai'n effeithio'n negyddol ar unrhyw un o'r pedwar amcan trwyddedu, a gellir ei ddefnyddio ar gyfer: 

  • newidiadau bach i strwythur neu osodiad safle
  • ychwanegu awdurdodiad ar gyfer lluniaeth yn hwyr yn y nos neu adloniant wedi'i reoleiddio, e.e. perfformio dramâu neu ddangos ffilmiau
  • newidiadau bach i oriau trwyddedu (gweler isod am newidiadau sy'n gysylltiedig ag alcohol)
  • diwygio, dileu ac ychwanegu amodau a allai gynnwys dileu neu ddiwygio amodau sy'n hen, yn amherthnasol neu'n amhosibl eu gorfodi, neu ychwanegu amodau gwirfoddol

Ni all y broses mân amrywiadau gael ei defnyddio ar gyfer:

  • ychwanegu adwerthu neu gyflenwi alcohol at drwydded
  • ymestyn oriau'r drwydded ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol unrhyw bryd rhwng 11pm a 7am
  • cynyddu unrhyw gyfnod mewn diwrnod pryd y gall alcohol gael ei werthu trwy adwerthu neu ei gyflenwi
  • ymestyn cyfnod grym y drwydded neu'r dystysgrif
  • trosglwyddo'r drwydded neu'r dystysgrif o un safle i un arall, neu amrywio'r safle y mae'n gysylltiedig ag ef yn sylweddol
  • pennu, mewn trwydded safle, unigolyn fel goruchwylydd safle
  • ychwanegu gwerthu alcohol trwy ei adwerthu neu ei gyflenwi, fel gweithgaredd sydd wedi'i awdurdodi gan drwydded neu dystysgrif
  • datgymhwyso'r amodau gorfodol sy'n gysylltiedig â goruchwylydd dynodedig safle (gall safle cymunedol wneud cais am hyn trwy broses ar wahân).

Y ffi ar gyfer mân amrywiad yw £89 a rhaid ei chynnwys gyda'ch cais.

Gwneud cais am fân amrywiad i drwydded safle neu dystysgrif safle clwb mewn MS Word

O dan y broses mân amrywiadau, nid oes angen i ymgeiswyr hysbysebu'r amrywiad mewn papur newyddion nac anfon copi ohono at yr awdurdodau cyfrifol.

Fodd bynnag, rhaid ei arddangos ar hysbysiad gwyn i ddangos ei fod yn wahanol i'r hysbysiad glas sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer amrywiadau llawn a cheisiadau newydd, a rhaid i'r hysbysiad gydymffurfio â'r gofynion sydd wedi'u hamlinellu yn rheoliad 26A Rheoliadau Deddf Trwyddedu 2003 (Trwyddedau safle a thystysgrifau safle clwb) 2005.

Gweld hysbyseb enghreifftiol ar gyfer mân amrywiad (pdf)

Rhaid arddangos yr hysbysiad am ddeng niwrnod gwaith, yn dechrau ar y diwrnod gwaith ar ôl cyflwyno'r cais am fân amrywiad i'r awdurdod trwyddedu.

Cysylltu

Anfonwch e-bost at [email protected] neu cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd a gofyn am y Tîm Trwyddedu.