Dechrau busnes bwyd
Os ydych chi'n ystyried sefydlu eich busnes bwyd eich hun, darllenwch y wybodaeth ar y dudalen hon.
Ewch i wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd i gael gwybodaeth am ddechrau busnes bwyd.
Bydd angen i chi ddeall:
Os ydych chi'n berchen ar fusnes bwyd yng Nghasnewydd, neu wedi cymryd drosodd busnes o'r fath, rhaid i chi gofrestru'ch busnes gyda'r cyngor o leiaf 28 niwrnod cyn agor neu gymryd perchnogaeth.
Mae hyn yn cynnwys bwytai, caffis, siopau, cerbydau danfon, faniau cŵn poeth a hufen iâ, stondinau marchnad a stondinau eraill.
Gwnewch gais i gofrestru busnes bwyd ar-lein
Neu lawrlwythwch ffurflen gofrestru safle bwyd (pdf)
Os oes gennych fusnes bwyd symudol ac rydych chi'n bwriadu masnachu ar y briffordd yng Nghasnewydd, bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd masnachu ar y stryd.
Os ydych chi'n bwriadu gwerthu bwyd poeth ar ôl 11pm, gwerthu alcohol neu ddarparu adloniant wedi'i reoleiddio, bydd angen i chi wneud cais am drwydded
Hefyd, mae'n bosibl y bydd angen i chi wneud cais am gymeradwyo eich safle bwyd os byddwch chi'n bwriadu defnyddio cynhyrchion heb eu prosesu sy'n dod o anifeiliaid (e.e. cig ffres, briwgig amrwd, llaeth amrwd neu wyau).