Hyfforddiant hylendid bwyd
Gweithdai diogelwch bwyd am ddim
Rydym yn cynnig gweithdai diogelwch bwyd am ddim i bob busnes yng Nghasnewydd.
Bydd y gweithdai yn ddwy awr y sesiwn ac maent wedi'u cyfyngu i un person fesul busnes.
Mae dwy gweithdy gwahanol y gallwch eu harchebu, sef:
Gweithdy 1, sy'n cwmpasu
- Canllawiau croeshalogi ac E.coli
- Strwythur a chynnal a chadw
Gweithdy 2, sy'n cwmpasu
- Systemau Rheoli Diogelwch Bwyd (FSMS)
- Bwyd mwy diogel, busnes gwell (SFBB)
- Dadansoddi peryglon a phwynt rheoli critigol (HACCP)
- Glanhau a diheintio
Bydd pob cwrs yn cael ei gynnal rhwng 11am a 1pm ar y dyddiadau a ddangosir isod, yn Ystafell Bwyllgor 7 yng Nghanolfan Ddinesig Casnewydd.
Gweithdy 1
Dydd Gwener 28 Mehefin
Gweithdy 2
Dydd Iau 16 Mai
Dydd Mawrth 13 Awst
I gofrestru eich diddordeb yn unrhyw un o'r sesiynau, e-bostiwch [email protected]
Daw cyllid ar gyfer y cyrsiau o Gronfa Ffyniant Gyffredin llywodraeth y DU.
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn un o bileri canolog agenda Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac yn darparu £2.6 biliwn o gyllid i’w fuddsoddi’n lleol erbyn mis Mawrth 2025.
Nod y gronfa yw gwella balchder mewn ardaloedd a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau ac ardaloedd a chefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.
Am fwy o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus