Mae'r Cynllun Sgoriau Hylendid Bwyd yn rhoi gwybodaeth am y safonau hylendid mewn safle bwyd adeg ei archwilio.
Caiff y sgoriau a roddir eu cyhoeddi ar wefan sgoriau bwyd yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Sut mae'r sgoriau'n cael eu cyfrifo
Ar ôl archwiliad gan swyddog diogelwch bwyd, rhoddir sgôr i bob busnes ar sail pa mor dda mae'r busnes yn bodloni gofynion y gyfraith hylendid bwyd ar y pryd.
Mae'r asesiad yn seiliedig ar ystyriaeth o:
- ba mor hylan mae'r bwyd yn cael ei drafod - paratoi, coginio, ailgynhesu, oeri a chadw bwyd yn ddiogel
- cyflwr strwythur y safle - glendid, cyflwr, trefn, goleuo, awyru a chyfleusterau eraill
- sut caiff y busnes ei reoli i wneud yn siwr bod bwyd yn ddiogel fel y gall y swyddog fod yn hyderus y bydd safonau'n cael eu cynnal yn y dyfodol
Mae'r sgôr yn ymwneud â safonau hylendid y busnes bwyd, nid ansawdd y bwyd na'r safonau gwasanaeth sy'n cael eu darparu i gwsmeriaid.
Rhoddir sticer i fusnesau yn dangos eu sgôr ac mae'n rhaid iddynt ei ddangos mewn lle amlwg, fel drws neu ffenestr ffrynt, ym mhob mynedfa i gwsmeriaid ac os bydd pobl yn gofyn i'r busnes am ei sgôr, rhaid iddo ddweud.
Apeliadau a hawl i ateb
I sicrhau bod y Cynllun Sgoriau Hylendid Bwyd yn deg i fusnesau, mae gweithdrefn apelio, hawl i ateb a chyfle i ofyn am ailymweliad pan fydd gwelliannau wedi'u gwneud.
Hawl i ateb
Mae hawl i ateb yn rhoi cyfle i berchenogion busnes bwyd esbonio pa fesurau maen nhw wedi'u cymryd i fynd i'r afael ag unrhyw broblemau diogelwch bwyd a ddarganfuwyd yn ystod archwiliad.
Hawl i apelio
Gall busnes apelio os yw'n teimlo bod y sgôr hylendid bwyd yn annheg neu nid yw'n adlewyrchu'r amodau a ddarganfuwyd ar adeg yr archwiliad yn gywir.
Rhaid cyflwyno apeliadau o fewn 21 diwrnod o gael yr hysbysiad o'r sgôr, yn cynnwys penwythnosau a gwyliau banc.
Bydd apeliadau'n cael eu hystyried gan swyddog gorfodi hylendid bwyd na fu'n rhan o'r asesiad o'r sgôr sy'n destun yr apêl.
Bydd busnesau'n cael gwybod am y canlyniad o fewn 21 diwrnod o dderbyn yr apêl ac yna bydd y sgôr yn cael ei chyhoeddi ar-lein a bydd rhaid dangos sticer y sgôr hylendid bwyd a gyhoeddwyd.
Cais am gael ail sgôr hylendid bwyd
Caiff busnes wneud cais am ail-sgorio eu hylendid bwyd am gost o £180, y mae’n rhaid ei dalu cyn cynhelir yr archwiliad.
Cofiwch, cyn ymweliad ail-sgorio, rhaid i chi:
- ddangos y sticer sgôr hylendid bwyd presennol yn gywir;
- cyflwyno cais dilys;
- talu.
Os, er enghraifft, nad yw sticer sgôr dilys a chyfredol ar ddangos yn ystod ymweliad ail-sgorio, ni aiff y swyddog yn ei flaen â’r archwiliad a chewch chi ddim ad-daliad.
Mae’n bosibl y byddwch yn wynebu camau gweithredu mwy ffurfiol am beidio â dangos sticer sgôr dilys a chyfredol.
Gwneud cais ar-lein
Cwblhewch y cais ail-sgorio isod, gan gyflwyno unrhyw ddogfennau a lluniau y dymunwch er mwyn cefnogi eich cais.
Bydd y broses yn gyflawn pan fo £180 wedi ei dalu ar-lein ar ddiwedd y ffurflen.
Ar ôl cyflwyno’r ffurflen, caiff ei hystyried gan y tîm iechyd yr amgylchedd a chynhelir archwiliad ail-sgorio o fewn tri mis wedi’r dyddiad talu.
Cais ar-lein am gael ail sgôr hylendid bwyd
Gwneud cais drwy e-bost neu’r post
Mae’n bosibl gwneud cais am ail-sgorio’r hylendid bwyd trwy e-bost neu’r post.
Lawrlwythwch a chwblhewch ffurflen gais am ail-sgorio hylendid bwyd (Word) a'i e-bostio i environmental.health@newport.gov.uk neu postiwch nhw i:
Cyngor Dinas Casnewydd, Canolfan Ddinesig, Casnewydd, NP20 4UR
Ar ôl ei dderbyn byddwn yn anfon anfoneb atoch y gallwch ei thalu dros y ffôn.
Dim ond ar ôl i ni gael taliad y bydd cais am ail-sgorio yn ddilys a chynhelir arolygiad o fewn tri mis wedi'r taliad.
Cysylltu
Anfonwch e-bost at environmental.health@newport.gov.uk neu cysylltwch â thîm diogelwch bwyd iechyd yr amgylchedd Cyngor Dinas Casnewydd.
TRA116306 25/02/2020