Archwiliadau hylendid bwyd

Mae tîm diogelwch bwyd y cyngor yn archwilio safleoedd bwyd er mwyn:

  • canfod ac atal risgiau i iechyd y cyhoedd
  • ymchwilio i achosion posibl o dorri deddfwriaeth hylendid bwyd a chymryd y camau angenrheidiol i sicrhau bod busnesau'n cydymffurfio â'r gyfraith
  • cynnig cyngor am arferion hylendid bwyd da

Mae gan swyddogion diogelwch bwyd yr hawl i fynd i mewn i fusnes bwyd a'i archwilio ar unrhyw amser rhesymol heb drefnu apwyntiad a heb roi rhybudd o flaen llaw fel arfer.

Mae swyddogion wedi'u hawdurdodi i archwilio'r safle, archwilio bwyd, archwilio cofnodion (gan gynnwys cofnodion cyfrifiadurol), atafaelu bwyd, cymryd samplau a thynnu ffotograffau i'w defnyddio fel tystiolaeth.

Hylendid bwyd da

Ewch i wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd i gael gwybodaeth am hylendid da, gan gynnwys:

  • Croeshalogi
  • Glanhau
  • Oeri
  • Coginio