Cymeradwyo busnes bwyd

O dan ddeddfwriaeth y Comisiwn Ewropeaidd, mae'n bosibl y bydd angen i'ch busnes bwyd gael ei gymeradwyo os ydych chi'n gwneud, yn paratoi neu'n trafod bwyd sy'n dod o anifeiliaid i'w gyflenwi i fusnesau eraill.  

Mae bwyd sy'n dod o anifeiliaid yn cynnwys:

  • Briwgig a pharatoadau cig
  • Cynhyrchion cig a chig wedi'i wahanu'n fecanyddol
  • Molysgiaid dwygragennog byw a chynhyrchion pysgodfeydd
  • Llaeth amrwd (heblaw am laeth buwch amrwd)
  • Cynhyrchion llaeth
  • Wyau (nid cynhyrchu cynradd)
  • Cynhyrchion wyau
  • Coesau broga a malwod
  • Toddion a chriwsion anifail
  • Stumogau, pledrennau a choluddion wedi'u trin
  • Gelatin a cholagen
  • Rhai storfeydd oer a marchnadoedd cyfanwerthu

Gwneud cais am gymeradwyo safle bwyd

Ni all eich busnes bwyd weithredu hyd nes bydd wedi cael ei gymeradwyo