Cyllid ar gyfer Busnesau Newydd

 

Grantiau Busnesau Newydd Cyngor Dinas Casnewydd a UK Steel Enterprise

Yn ogystal â Grantiau Busnes Dinas Casnewydd (sydd wedi eu gohirio ar hyn o bryd), mae Cyngor Dinas Casnewydd yn gweinyddu cynllun grantiau busnesau newydd ar gyfer busnesau newydd a busnesau hyd at 1 oed - a ariennir gan UK Steel Enterprise. 

 

Benthyciadau Busnesau Newydd Cymru

Mae Benthyciadau Busnesau Newydd ar gael i entrepreneuriaid sydd am ddechrau busnes yng Nghymru.  Mae Busnes mewn Ffocws yn Bartner Cyflenwi Swyddogol i'r cynllun Benthyciadau Busnesau Newydd a gall eich cynorthwyo i wneud cais.

 

Ymddiriedolaeth y Tywysog

Mae Ymddiriedolaeth y Tywysog yn gweithio gyda phobl ifanc 18 i 30 oed i droi syniadau mawr yn realiti busnes drwy'r Rhaglen Fenter.  Mae'r rhaglen am ddim ac yn cynnig hyfforddiant, cymorth mentora un i un a chyllid.  

 

Lwfans Menter Newydd - Canolfan Byd Gwaith

Mae’r Lwfans Menter Newydd (LMN) yn caniatáu i bobl ddi-waith gadw rhai budd-daliadau am hyd at 6 mis ar ôl dechrau busnes.

Mae cynllun benthyciadau a mentora hefyd ar gael.