Rhaglen gyllidebu gyfranogol 2022/23

Rhaglen gyllidebu gyfranogol 2022/23

Mae ein rhaglen gyllidebu gyfranogol ddiweddaraf bellach ar agor ar gyfer ceisiadau. 

Mae Ein Llais Ein Dewis Ein Dinas yn rhoi cyfle i bobl Casnewydd, wneud cais am arian i wneud Casnewydd yn lle mwy diogel, cryfach, gwyrddach i fyw, gweithio ac ymweld â hi.

Mae Cyngor Dinas Casnewydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi sicrhau bod gwerth £300,000 ar gael i'w wario ar brosiectau a fydd yn cael eu darparu yng Nghasnewydd gan grwpiau a sefydliadau lleol.

Bydd yr arian hwn yn cael ei ddyrannu drwy broses a elwir Cyllidebu Cyfranogol. Mae Cyllidebu Cyfranogol, sy'n dod o Frasil, yn caniatáu i bobl leol bleidleisio'n uniongyrchol ar ba brosiectau maen nhw am eu gweld yn cael eu hariannu.

Gwybodaeth

Rhaid i bob prosiect fynd i’r afael ag un neu fwy o’r themâu allweddol:

1 - Adeiladu cymunedau mwy diogel, cryfach a mwy gwydn

2 - Gwella iechyd, lles ac annibyniaeth pob

3 - lLleihau anghydraddoldebau, mynd i'r afael ag anfantais a chefnogi ein pobl fwyaf agored i niwed

4 - Mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur, drwy weithredu ar yr hinsawdd a diogelu a gwella bioamrywiaeth.

5 - Gwneud Casnewydd yn lle gwell i fyw, gweithio ac ymweld ag ef

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 5pm ar ddydd Gwener 16 Rhagfyr.

Os oes gennych brosiect sy'n cyrraedd ein meini prawf, gallwch wneud cais am hyd at £10,000 ar gyfer cais sengl neu hyd at £15,000 ar gyfer tri chais ar wahân.

Gallwch gael mynediad i'r ffurflen drwy glicio yma.

Gallwch ddod o hyd i fanylion eich aelod lleol yma

I gael mwy o wybodaeth neu’r newyddion diweddaraf, cysylltwch â ni trwy e-bostio

[email protected] neu ffonio 01633 235207

Egwyddorion y Prosiect

Adeiladu cyfalaf cymdeithasol a chyfoeth cymunedol –dylai prosiectau gryfhau cysylltiadau a rhwydweithiau cymdeithasol, adeiladu gwydnwch cymunedol a hyrwyddo ymddiriedaeth a chydweithrediad

Gweithredu cymdeithasol – dylai prosiectau ddod â phobl at ei gilydd i wella bywydau a datrys problemau sy'n bwysig i'w cymunedau

Yn seiliedig ar dystiolaeth a chanlyniadau – dylai prosiectau ddangos tystiolaeth bod eu hangen, ar sail y themâu allweddol a nodwyd, a bod ganddynt ganlyniadau clir a mesuradwy

Ataliol a hirdymor – dylai prosiectau ganolbwyntio ar ddulliau sy'n atal problem rhag gwaethygu, a mynd i'r afael ag achosion sylfaenol problemau

Cydweithredu – dylai prosiectau gynnwys cymunedau ac annog partneriaeth a ffyrdd o gydweithio

Cydraddoldeb a chynhwysiant – dylai prosiectau fod yn gynhwysol ac yn hygyrch gyda’r nod o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau canlyniadau a nodwyd

Ychwanegedd –ni ddylai prosiectau ddyblygu'r ddarpariaeth cymorth Covid-19 bresennol, ond ceisio llenwi bylchau


 Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn gweithio ar y rhaglen hon mewn partneriaeth â Mutual Gain, sy'n arbenigwyr mewn cyd-gynhyrchu, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.