Oes gennych brosiect cymunedol sy’n gallu helpu i wella lles yng Nghasnewydd?
A yw eich prosiect yn helpu pobl i wella o effeithiau eang Covid-19?
Mae ein rhaglen gyllidebu gyfranogol ddiweddaraf bellach ar agor ar gyfer ceisiadau.
Mae'r cyngor wedi dyrannu £250,000 o'n cronfa adfer Covid-19 i grwpiau cymunedol i ddatblygu prosiectau adfer covid yn y gymuned.
Caiff hyn ei gyfuno â £150,000 arall sydd ar gael gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
Ymunwch â'n digwyddiadau penderfynu
Gwybodaeth
Bydd rhaglen yn agor ar ddydd Gwener, 3 Rhagfyr ac yn cau ar ddydd Mercher, 12 Ionawr am 17:00.
Gall prosiectau wneud cais am uchafswm o £15,000, a rhaid iddnyt fodloni un neu fwy o'r themâu allweddol.
Iechyd Meddwl a Lles
- Lleihau unigedd
- Meithrin rhwydweithiau cymdeithasol
- Creu mannau diogel
- Lleihau stigma
Cydlyniant cymunedol
- Cyd-dynnu
- Datblygu ymdeimlad o hunaniaeth gyffredin
- Integreiddio – creu bondiau cymdeithasol a phontydd
Gwybodaeth a mynediad
- Eiriolaeth
- Hygyrchedd
- Cyfeirio
Adfer bywyd
- Magu hyder
- Lleihau pryder
- Cynyddu ymddiriedaeth
Magu gwydnwch
- Cyflogaeth a sgiliau
- Datblygu ymddygiadau iach a ffyrdd iach o fyw
Sut i wneud gais
Mae ceisiadau wedi cau.
I gael mwy o wybodaeth neu’r newyddion diweddaraf, cysylltwch â ni trwy e-bostio
[email protected] neu ffonio 01633 235207
Egwyddorion y Prosiect
Adeiladu cyfalaf cymdeithasol a chyfoeth cymunedol –dylai prosiectau gryfhau cysylltiadau a rhwydweithiau cymdeithasol, adeiladu gwydnwch cymunedol a hyrwyddo ymddiriedaeth a chydweithrediad
Gweithredu cymdeithasol – dylai prosiectau ddod â phobl at ei gilydd i wella bywydau a datrys problemau sy'n bwysig i'w cymunedau
Yn seiliedig ar dystiolaeth a chanlyniadau – dylai prosiectau ddangos tystiolaeth bod eu hangen, ar sail y themâu allweddol a nodwyd, a bod ganddynt ganlyniadau clir a mesuradwy
Ataliol a hirdymor – dylai prosiectau ganolbwyntio ar ddulliau sy'n atal problem rhag gwaethygu, a mynd i'r afael ag achosion sylfaenol problemau
Cydweithredu – dylai prosiectau gynnwys cymunedau ac annog partneriaeth a ffyrdd o gydweithio
Cydraddoldeb a chynhwysiant – dylai prosiectau fod yn gynhwysol ac yn hygyrch gyda’r nod o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau canlyniadau a nodwyd
Ychwanegedd –ni ddylai prosiectau ddyblygu'r ddarpariaeth cymorth Covid-19 bresennol, ond ceisio llenwi bylchau
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn gweithio ar y rhaglen hon mewn partneriaeth â Mutual Gain, sy'n arbenigwyr mewn cyd-gynhyrchu, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.