Bobl Ifanc

Academi Ieuenctid Casnewydd

Wedi’i leoli yn Hyb y Dwyrain, mae Academi Ieuenctid Casnewydd yn ddarpariaeth ysbrydoledig sy'n newid bywydau pobl ifanc Casnewydd rhwng 16 a 18 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET).

Mae'r academi yn un o ddarparwyr hyfforddiant mwyaf Casnewydd gyda dros chwe blynedd o brofiad yn darparu hyfforddiant i bobl ifanc ac yn eu cefnogi i gyflogaeth ac addysg uwch/addysg bellach.

Dysgwch fwy am Academi Ieuenctid Casnewydd.


 

Mae gwasanaethau, gwybodaeth a chymorth eraill i bobl ifanc yn y ddinas yn cynnwys:

Canllawiau i bobl ifanc

Cynhyrchwyd y canllawiau hyn i roi gwybodaeth a chyngor i helpu pobl ifanc i fyw'n annibynnol.

Arian (pdf)
Dodrefnu eich cartref (pdf)
Cadw'n ddiogel (pdf)
Cyflogaeth (pdf)
Cymorth Addysg (pdf)
Budd-dal plant (pdf)
Siopa bwyd (pdf)

Adnoddau:

  • Ymweld â thudalennau gwe'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd am gyngor ar ofal plant a rhianta.
  • AGENDA: Mae canllaw i bobl ifanc ar wneud perthnasoedd cadarnhaol yn bwysig yn helpu pobl ifanc i godi ymwybyddiaeth o anghydraddoldebau rhwng y rhywiau, aflonyddu rhywiol a thrais mewn ysgolion a chymunedau.

Clybiau ieuenctid

Mae clybiau ieuenctid Casnewydd yn rhedeg ar draws y ddinas.  Nodir y lleoliadau, yr amseroedd a'r manylion cyswllt isod:

 

Lleoliad

Cyswllt

Dydd Llun

 

 

Clwb Ieuenctid Betws,
4pm-8pm

Clwb y Gwasanaeth Sifil

07976 634071

Clwb Ieuenctid Pillgwenlli,
6pm-8pm

YMCA Pillgwenlli

07814 495674

Anabledd, 5pm-8pm (atgyfeiriad yn unig)

Serennu

07969 901963

Dydd Mawrth

 

 

Clwb Ieuenctid Alway,
5.30pm-7.30pm

Canolfan Gymunedol Alway

07772 119043

 

 

 

Dydd Mercher

 

 

Clwb Ieuenctid Rivermead, 4pm-8pm

Canolfan Rivermead

07870 235552

Clwb Ieuenctid Underwood, 4pm-8pm

Canolfan Gymunedol Bishton

07970 756383

Clwb Ieuenctid Pillgwenlli,
5pm-9pm

Canolfan Mileniwm Cymru

07977 926426

 

 

 

Dydd Iau

 

 

Clwb Ieuenctid Maindee,
6pm-8pm

Tŷ Cymunedol

07967486440

Anabledd, 5pm-8pm (atgyfeiriad yn unig)

Serennu

(01633) 748000

Clwb Ieuenctid Ringland,
5pm-7pm

Canolfan Gymunedol Ringland

07969 901963

Clwb Ieuenctid Llyswyry,
7pm-9pm

Canolfan Gymunedol Rhostir

07814 495674

 

 

 

Dydd Sadwrn

 

 

Prosiect NP20,
12.30pm-2.30pm

Theatr Glan yr Afon   

07977 926426

 

Cyngor Ieuenctid Casnewydd

Mae Cyngor Ieuenctid Casnewydd yn grŵp o bobl rhwng 11 a 25 oed, sy'n cynrychioli barn a safbwyntiau pobl ifanc.

Gyda chefnogaeth ac arweiniad gan Gyngor Dinas Casnewydd maent yn sicrhau bod gan bobl ifanc lais a chymorth i lunio dyfodol y ddinas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Gwneir hyn yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a dyletswydd yr awdurdod lleol i ymgysylltu â phobl ifanc.  

Ymunwch!

Os hoffech ddod yn aelod, cwblhewch y ffurflen manylion personol

Ar ôl ei chwblhau anfonwch hi i [email protected] a bydd rhywun yn ymateb cyn gynted â phosibl!

Gwobr Dug Caeredin

Mae rhaglen Dug Caeredin yn agored i unrhyw un rhwng 14 a 24 oed a hoffai ddysgu sgil newydd, gwirfoddoli, ymgymryd â gweithgaredd corfforol a chwblhau alldaith. 

Cwblhewch lefel efydd, arian neu aur a chyflawnwch wobr drwy gwblhau rhaglen bersonol o weithgareddau mewn pedair adran, neu bump os ydych yn mynd am  aur.  

Ar hyd y ffordd byddwch yn casglu profiadau, ffrindiau a thalentau a fydd yn aros gyda chi weddill eich oes.  

Mae rhaglen Dug Caeredin yn cael ei rhedeg yn ysgolion uwchradd Casnewydd, clybiau ieuenctid, Coleg Gwent a'r Share Centre, Stow Hill.

Mae lefel efydd yn cymryd chwe mis i chwblhau, mae arian yn cymryd blwyddyn i’w chwblau ac aur yn cymryd 18 mis.   

E-bostiwch [email protected] neu ewch i wefan Gwobr Dug Caeredin am fwy o wybodaeth.