Cyfamod cymunedol

e
Llofnodwyd Cyfamod Cymunedol Lluoedd Arfog Casnewydd ym Mhared Rodney ar 25 Chwefror 2016.
Mae’r cyfamod yn cydnabod yr aberth a wnaeth aelodau’r lluoedd arfog a’u teuluoedd.
Mae’r cyfamod yn addewid gwirfoddol sy’n annog sefydliadau, busnesau a chymunedau i weithio gyda’r lluoedd arfog i gynnig cymorth i ddynion a menywod yn y lluoedd, eu teuluoedd, milwyr wrth gefn a chyn-filwyr.
Mae’n cydnabod ac yn cofio’r aberth a wnaeth aelodau’r gymuned lluoedd arfog a’u teuluoedd yng Nghasnewydd.
Mae’r sefydliadau hyn wedi llofnodi’r cyfamod cymunedol:
- Cyngor Dinas Casnewydd
- Bwrdd Gwasanaethau Lleol Casnewydd yn Un
- Catrawd 104 y Magnelwyr Brenhinol
- Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent
- Lleng Brydeinig Frenhinol Gwent
- SSAFA Gwent
- Lleng Brydeinig Frenhinol, Casnewydd
- Cymdeithasau Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO)
Lawrlwytho Cyfamod Cymunedol Lluoedd Arfog Casnewydd (pdf)