Digwyddiadau

Fel rhan o'r dathliadau ar y diwrnod, bydd nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau yng nghanol y ddinas. Yn cynnwys:

Canol y Ddinas

  • 10am: Gorymdaith aelodau’r lluoedd arfog, cyn-filwyr, banerwyr Y Lleng Brydeinig Frenhinol a chadetiaid y fyddin a’r RAF - o'r Stryd Fawr i Sgwâr John Frost - wedi eu harwain gan Fand Catrodol a Chorfflu Drymiau'r Cymry Brenhinol.

    Bydd mascot y 3ydd Bataliwn Brenhinol Cymreig, yr Is-gorporal Shenkin IV, a'r Corporal Jones, mascot Gwarchodlu Dragwniaid 1af y Frenhines yn rhan o'r orymdaith hefyd.

 

Arddangosfeydd a gweithgareddau (10am - 3pm)

Marchnad Casnewydd

    • Arddangosfa Brwydr Prydain a'r Rhyfel Byd Cyntaf, yn cynnwys tanciau model rheoli o bell o Amgueddfa Firing Line Gwarchodlu Dragwniaid 1af y Frenhines a'r Cymry Brenhinol.

Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd

    • Brasluniau’r Ffrynt Cartref ac arddangosfa fach o'r Rhyfel Byd Cyntaf

Theatr Glan yr Afon

    • Stondinau gwybodaeth ar gyfer elusennau a sefydliadau'r lluoedd arfog

    • Arddangosfa o waith celf gan blant y lluoedd arfog

    • Gweithgaredd crefft i blant

Ardal o amgylch glan yr afon

10am - 3pm: arddangos cerbydau milwrol

am: Bydd SARA (Cymdeithas Achub Ardal Hafren) ar Afon Wysg gyda'u bad achub 

  • *10:45am: Saliwt awyr y Red Arrows (os bydd y tywydd yn caniatáu)
  • *10:50am: Hedfan awyrennau milwrol A400M (os bydd y tywydd yn caniatáu)
  • *(Tua)11:20am a 11:30am: timau arddangos Parasiwtwyr Tigers y Fyddin a Falcons yr RAF (os bydd y tywydd yn caniatáu)                      Bydd pobl canol y ddinas yn eu gwylio’n "galw heibio" ond bydd eu man glanio ar gau i'r cyhoedd     
  • 12:30 pm: Coffáu colli HMS Turbulent - ar hyd yr afon, ger Theatr Glan yr Afon)

Oherwydd amgylchiadau sydd y tu hwnt i’n rheolaeth ni, ni bydd trosffordd spitfire Brwydr Prydain yn digwydd 

*Gall amseroedd newid

Rodney Parade

  • 12 - 4pm: Ardal Gweithgareddau’r Fyddin - yn cynnwys wal ddringo, cwrs rhwystrau, ffyn pugil, saethu laser, stondin saethyddiaeth a stondin iechyd y fyddin.

4pm - Cyngerdd Milwrol:
Bydd y cyngerdd yn dechrau ac yn cynnwys perfformiadau gan y Band Catrodol a Chorfflu Drymiau'r Cymry Brenhinol, Band Tywysog Cymru, Côr Gwragedd Milwrol Caerdydd a Band Cadetiaid y Fyddin Gwent a Phowys a chyflwyniadau o wobrau'r Lluoedd Arfog yng Nghymru

. Mae tocynnau ar gyfer y cyngerdd bellach wedi gwerthu.