Ynglŷn â diwrnod y lluoedd arfog

Mae Casnewydd yn cynnal Diwrnod Cenedlaethol Lluoedd Arfog Cymru blynyddol ddydd Sadwrn 24 Mehefin 2023. 

Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yng Nghymru yn ddigwyddiad partneriaeth rhwng cynghorau, Llywodraeth Cymru, y lluoedd arfog - y Llynges Frenhinol , Y Fyddin a'r Awyrlu Brenhinol - a phartneriaid eraill.

Gwnaed penderfyniad yn 2021 y byddai'r digwyddiad blynyddol yn teithio ar draws holl ranbarthau Cymru a'r llynedd fe ddigwyddodd yn Wrecsam.

Tro Casnewydd yw hi eleni i gynnal y diwrnod mawreddog yma ac mae'n argoeli i fod yn ddiwrnod ysblennydd yn cynnwys gorymdaith drwy strydoedd canol y ddinas, arddangosiadau cyffrous a chyngerdd.

Mae'r Cyngor yn ddiolchgar am gefnogaeth y sectorau preifat a chyhoeddus.

Mae cwmni Sierra Nevada Corporation (SNC) Mission Systems UK sydd wedi’i leoli yng Nghymru a chwmni MJ Events o Gasnewydd wedi noddi’r digwyddiad. 

Mae Llywodraeth Cymru a'r Weinyddiaeth Amddiffyn, drwy gronfa grant Diwrnod y Lluoedd Arfog, hefyd wedi rhoi cymorth ariannol.