Dydd Gwener Arbennig y Teulu - Llwybr Stori'r Syrcas!

Dewch draw, Dewch draw ac ymunwch â'r clown a'r adroddwr straeon anhygoel Francis Maxey a fydd yn eich arwain ar hyd ein llwybr stori fydd â syrpreis rownd pob cornel! Gyda pherfformiadau clown arbennig a sgiliau anhygoel bydd yn agor byd straeon y syrcas i chi 250 o flynyddoedd ers ei ddechrau, gan orffen wrth ymyl ein paentiad arbennig o'r syrcas The Grand Parade. Ymunwch yn hwyl y babell fawr! Cwrdd yn y cyntedd ar y llawr gwaelod i ymuno â'r llwybr stori, gan adael am 11am, 12.15 a 2pm a bydd yn para oddeutu 45 munud. Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd, Sgwâr John Frost, Casnewydd, NP20 1PA

Sylwer bod ein gweithgareddau i'r teulu oll AM DDIM ac wedi eu cyfyngu i 15 fesul gweithdy ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'r gweithgareddau ar gyfer plant 4-12 oed a rhaid bod oedolyn gyda phlant o bob oed ar bob adeg.

Key information...

Location

Newport Museum & Art Gallery

Dates & Times:

Price

FREE

Event Type

Circus Family Workshops