News

Y Cyngor yn cymeradwyo ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg newydd yng Nghasnewydd

Posted on Friday 20th May 2016

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi cymeradwyo cynlluniau i adeiladu ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg newydd yn y ddinas.

Mae'r cynnig a gymeradwywyd yn cynnwys estyniad i Ysgol Uwchradd Dyffryn, gyda'r ysgol newydd, sef Ysgol Gyfun Gwent Is Coed, yn cael ei hadeiladau a'i thir ei hun. Bydd y ddwy ysgol yn gweithredu'n annibynnol ar ei gilydd.

Wrth i'r gwaith adeiladu fynd rhagddo, bwriedir i ddisgyblion yr ysgol newydd fynychu Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon ym Mrynglas, sy'n un o dair ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg Casnewydd, a hynny dros dro.

Bydd y datblygiad yn cynnig hyd at 900 o leoedd ysgol yn y blynyddoedd i ddod, a bydd yn bodloni'r galw cynyddol am addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg yn y rhanbarth.

Caiff yr ysgol newydd ei hariannu gan raglen ysgolion ar gyfer yr 21ain ganrif drwy gydfenter rhwng Llywodraeth Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd a Chyngor Sir Fynwy, gan ddarparu lleoedd ysgol uwchradd ar gyfer y ddau awdurdod lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: "Yn dilyn proses fanwl a thrylwyr, mae'n bleser mawr gennyf ddweud y byddwn nawr yn gallu cynnig addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg yn y ddinas. Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi gweithio ar hyn.

"Mae'r gymeradwyaeth hon heddiw hefyd yn golygu y caiff gwaith i wella Ysgol Uwchradd Dyffryn ei gwblhau, a fydd yn creu gwell amgylchedd i'r disgyblion yno gael eu haddysg."

Dywedodd y Cynghorydd Gail Giles, yr Aelod Cabinet dros Addysg a Phobl Ifanc: "Rwy'n falch iawn ein bod nawr yn gallu mynd ati i adeiladu ysgol bwrpasol newydd a fydd yn cynnig y cyfleusterau gorau posibl i ddisgyblion. Bydd Ysgol Gyfun Gwent Is Coed yn ased gwych i'r ddinas."

Dywedodd Elin Maher, cadeirydd corff llywodraethu dros dro'r ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg newydd: "Rydym wrth ein bodd bod aelodau Cyngor Dinas Casnewydd wedi cymeradwyo'r cynlluniau ar gyfer Ysgol Gyfun Gwent Is Coed. Diolch yn fawr iawn. Edrychaf ymlaen at weithio gyda'r pennaeth newydd, Rhian Dafydd, er mwyn cyflwyno'r ased hwn y mae ei ddirfawr angen ar y ddinas."

English version

More Information

There are no news articles that match your criteria.