Gwastraff cewynnau a hylendid

Rydym yn casglu amrywiaeth o eitemau fel rhan o'n gwasanaeth casglu cewynnau a gwastraff hylendid am ddim, sy'n cynnwys cewynnau, bagiau cewynnau, cadachau a gwlân cotwm, yn ogystal â chynnyrch anymataliaeth.

Rydym hefyd yn casglu bagiau colostomi gwag, bagiau stoma nad ydynt yn heintus, a chathetrau, fel rhan o'r gwasanaeth hwn.

Rydym yn casglu'r gwastraff hwn bob pythefnos o gartrefi sydd wedi'u cofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn.

I wneud cais am y gwasanaeth hwn, rhaid i chi:

  • os oes gennych blant o dan dair oed yn byw yn yr un tŷ, neu
  • os oes gennych gyflwr iechyd sy'n achosi i chi ddefnyddio un o'r eitemau a restrir uchod, a
  • defnyddio'r holl wasanaethau ailgylchu sydd ar gael i chi

Gwnewch gais am gasgliad cewynnau

Nodwch: ni allwch ddefnyddio'r gwasanaeth hwn ar gyfer mathau eraill o wastraff hylendid, fel gwastraff hylendid benywaidd. Rhowch yr eitemau hyn mewn bagiau dwbl a'u rhoi yn eich bin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.

Os hoffech gael gwared ar yr eitemau hyn yn amlach na phob tair wythnos, ewch â nhw i'r ganolfan ailgylchu gwastraff y cartref ar Docks Way ym Maesglas, yn rhad ac am ddim.

Trefnwch ymweliad â'n canolfan ailgylchu gwastraff y cartref

Cyfnewid cewynnau untro am gewynnau amldro

Wyddoch chi fod y babi cyfartalog yn defnyddio 5,000 o gewynnau, sy’n costio tua £1,500? Ac a wyddoch chi fod bron i 300 o gewynnau’n cael eu taflu yng Nghymru bob blwyddyn?

Mae cewynnau brethyn ailddefnyddiadwy yn cynnig dewis amgen i gewynnau untro sy’n dda i’r amgylchedd. Mae’r rhain yn gyfforddus, yn gallu arbed arian i chi, yn hawdd eu defnyddio, ac yn lleihau faint o wastraff rydych chi’n ei greu.

Os oes gennych ddiddordeb mewn rhoi cynnig ar gewynnau golchadwy, mae gan Gasnewydd Lyfrgell Cloth Clytiau sy’n cynnig cyngor ac awgrymiadau ar ddefnyddio cewynnau y gellir eu hailddefnyddio. Am ffi fechan gallwch logi set o gewynnau brethyn i'w treialu am fis.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â phryd mae eu cyfarfod nesaf edrychwch ar eu tudalen facebook yma neu gyswllt [email protected].

Gwastraff clinigol

I gael gwybodaeth am gasgliadau gwastraff clinigol, ar gyfer eitemau fel gorchuddion neu rwymynnau sydd wedi'u halogi â gwaed, nodwyddau, chwistrellau a deunyddiau miniog eraill, ewch i wefan GIG Cymru neu ffoniwch nhw ar 0300 123 9208.

Ewch i wefan GIG Cymru