Hyfforddiant Diogelwch ar y Ffyrdd

Pass Plus Cymru driver

Pass Plus Cymru

Cwrs hyfforddiant i yrwyr rhwng 17 a 25 mlwydd oed sydd newydd basio eu prawf gyrru ydy Pass Plus Cymru.   

Mae’r cwrs yn edrych ar dechnegau gyrru, ymwybyddiaeth peryglon, ymdopi â thraffig prysur, defnyddio ffyrdd gwledig a gyrru ar y draffordd – y cyfan am ddim ond £20 y pen ac nid oes rhaid cwblhau unrhyw brawf. 

Dyddiadau’r cwrs 2024/25

  • 16 Ebrill 2024
  • 13 Mai 2024
  • 10 Mehefin 2024
  • 9 Gorffennaf 2024
  • 10 Medi 2024
  • 10 Hydref 2024
  • 8 Techwedd 2024
  • 9 Ionawr 2025

Cynhelir cyrsiau ar Microsoft Teams ac mae chew lle ar gael ar bob cwrs

Gwneud cais am le ar gwsr Pass Plus 

Pwyllwch, peidiwch â lladd eich mêts

Oes gennych chi ffrind sy’n gyrru’n rhy gyflym, yn mwynhau’r wefr o oryrru, sy'n gyrru'n beryglus ac yn gyrru'n rhy agos i geir eraill?

Gall y ffrind hwn fod yn Ffrind Angheuol

Mae Ffrindiau Angheuol yn aml yn cael damweiniau oherwydd eu bod yn gyrru’n beryglus ac oherwydd eu hagwedd.

Maen nhw’n rhy brysur yn meddwl am eu delwedd ac nid ydyn nhw’n meddwl digon am y ffordd y maen nhw’n gyrru a pha mor werthfawr ydy bywyd. 

Os ydych chi yn y car gyda nhw, maen nhw’n rhoi eich bywyd chi a bywydau eraill mewn perygl, heb sôn am eu bywyd eu hunain - pwy yw eich Ffrindiau Angheuol chi? 

Motor-beics  

Mae motorbeicwyr 40 gwaith yn fwy tebygol o gael eu lladd na gyrrwr car ac felly mae’n hanfodol bod reidwyr yn gallu diogelu eu hunain ar y ffordd. 

Mae Cymru ar y Beic yn cynnig gwybodaeth am reidio yn ddiogel yng Nghymru ac yn cael ei baratoi gan feicwyr proffesiynol.  

Hyfforddiant Beicio

Mae ysgolion cynradd Casnewydd yn cynnig hyfforddiant beicio hyd at Safonau Cenedlaethol Lefel 1 drwy gyrsiau a gyflwynir gan Casnewydd Fyw.  

 Gwybodaeth berthnasol