Sgipiau

Mae'n rhaid cael trwydded ar gyfer sgip adeiladwr sydd wedi'i osod ar ochr y ffordd.

Bydd y cwmni sgipiau a ddefnyddiwch yn gwneud cais am y drwydded ar eich rhan.

Ar hyn o bryd, pris trwydded yw £51.48 am 14 niwrnod.

Dylech ofyn am gael gweld trwydded y cwmni llogi neu gysylltu â'r cyngor i gadarnhau bod trwydded wedi'i rhoi.

Gwneud cais am drwydded sgip  

Amodau cymeradwyo - Deddf Priffyrdd 1980 (Adran 139)

Ni cheir gosod sgip adeiladwr ar y briffordd heb ganiatâd yr awdurdod priffyrdd.

Gall caniatâd gael ei roi yn sgil cais gan berchennog y sgip neu'r gweithredwr, yn ddarostyngedig i amodau penodol fel:

  • Lle nad oes ffordd resymol o osod y sgip oddi ar y briffordd
  • Dimensiynau'r sgip
  • Y modd y bydd y sgip yn cael ei orchuddio â phaent a deunydd arall er mwyn ei wneud yn weladwy i draffig sy'n dod ato
  • Gofal a gwaredu cynnwys y sgip
  • Sut bydd y sgip yn cael ei oleuo neu ei warchod
  • Gwaredu'r sgip ar ddiwedd y cyfnod a ganiateir
  • Talu'r ffi briodol

Os bydd sgip adeiladwr yn cael ei osod ar briffordd heb ganiatâd a roddwyd o dan yr adran hon, bydd perchennog y sgip yn euog o drosedd a gallai gael ei ddirwyo.

Pan fydd sgip adeiladwr wedi'i roi ar briffordd yn unol â chaniatâd a roddwyd o dan yr adran hon, bydd perchennog y sgip yn sicrhau:

  • Bod y sgip wedi'i oleuo'n gywir yn ystod oriau tywyllwch [a, lle y bo rheoliadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adran hon yn mynnu bod y sgip wedi'i farcio yn unol â'r rheoliadau (boed hynny gyda deunydd adlewyrchol neu ddeunydd fflworoleuol, neu arall), ei fod wedi'i farcio felly]
  • Bod enw a rhif ffôn cyswllt mewn argyfwng, 24 awr, wedi'u marcio'n glir ac yn barhaol ar y sgip
  • Bod y sgip yn cael ei symud o'i safle cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl iddo gael ei lenwi
  • Bod cydymffurfiaeth â phob un o'r amodau a osodwyd pan roddwyd caniatâd

Mae'n rhaid i chi indemnio'r awdurdod priffyrdd yn erbyn pob hawliad, sut bynnag y cafodd ei achosi neu sy'n deillio o leoliad y sgip a gwaith arall a wnaed, neu y gellir ei briodoli i hynny, a dylech felly yswirio yn erbyn atebolrwydd sy'n cael ei achosi gan yr amodau hyn.

Rhaid cynnwys copi o dystysgrif yr yswiriwr perthnasol.

Ni cheir gosod sgipiau:

  • ar gorneli dall
  • gerllaw cyffyrdd lle mae angen ildio
  • ar safleoedd bysiau
  • ar linellau melyn dwbl
  • ar barthau croesi ysgolion
  • ar ymylon porfa

Os na fydd sgipiau yn cydymffurfio â'r uchod neu os byddant ar y briffordd heb drwydded, byddant yn cael eu symud oddi yno a bydd costau hynny'n cael eu hawlio oddi wrth y perchennog.

Cynnwys sgip

Ni chaiff sgipiau sy'n cael eu gosod ar y briffordd gynnwys unrhyw ddeunyddiau fflamadwy, ffrwydrol, gwenwynig neu ddeunyddiau peryglus eraill, nac unrhyw beth sy'n debygol o achosi perygl i ddefnyddwyr y ffordd neu aelodau'r cyhoedd.

Gwacáu sgipiau

Rhaid gwaredu pob deunydd sy'n cael ei osod mewn sgip yn gywir.

Rhaid symud sgipiau llawn o'r briffordd ar unwaith neu yn ôl disgresiwn yr awdurdod priffyrdd.