Llifogydd

Cyngor Dinas Casnewydd yn paratoi ar gyfer llifogydd posibl a rhoi  system ymateb 24 awr ar waith. 

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cyhoeddi rhybudd os tybir bod unrhyw ran o Gasnewydd mewn perygl o lifogydd.  

Gwirio rhybuddion llifogydd presennol gan CNC

Pwy sy'n gyfrifol a phwy all helpu? (pdf) 

Llifogydd

Dysgwch a oes risg i chi ddioddef llifogydd a sut i baratoi o flaen llaw ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Gall preswylwyr a busnesau gofrestru gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i gael rhybuddion llifogydd am ddim. 

Gwiriwch rybuddion llifogydd presennol Cyfoeth Naturiol Cymru. 

Lawrlwythwch y Strategaeth Rheoli Risg Llifogydd Lleol (pdf)

Gweler hefyd y dudalen Cynnal a Chadw'r Ffyrdd – Llifogydd.

Adrodd am lifogydd

Cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd i adrodd am lifogydd wedi eu hachosi gan ddraeniau neu gylïau dŵr wyneb wedi'u blocio mewn parciau ac ar ffyrdd a fabwysiadwyd.   

Os yw'r broblem yn ymwneud â charthffosydd neu garthion (h.y. nid draen dŵr storm) cysylltwch â Dŵr Cymru Ar 0800 085 3968

Os yw'r broblem yn ymwneud ag afonydd cysylltwch â Chyfoeth Naturiol Cymru Ar 0300 065 3000 (opsiwn 1)

Os digwydd llifogydd bydd y Cyngor yn:

  • cydgysylltu â'r asiantaethau a'r sefydliadau perthnasol
  • rhoi gweithlu ar waith i ymateb
  • yn ystod llifogydd eithafol, gellir darparu bagiau tywod yn dibynnu ar argaeledd ac adnoddau. Nid oes gan y cyngor ddyletswydd statudol i ddarparu bagiau tywod. Mae preswylwyr yn gyfrifol am ddiogelu eu heiddo eu hunain rhag llifogydd
  • rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud ag eiddo
  • cynnig llety dros dro i breswylwyr y mae llifogydd yn effeithio arnynt ac nad ydynt yn gallu aros yn eu heiddo. Mae'n werth gwirio'ch polisi yswiriant eiddo domestig oherwydd mae'n bosibl y byddwch yn cael chwilio am lety arall
  • cynnig cyngor ar lanhau
  • helpu'r gymuned i adfer
  • cyhoeddi gwybodaeth i gynorthwyo wrth adfer eiddo yr effeithiwyd arnyn nhw
  • cynnig cymorth lles tymor hirach     

Gwybodaeth am Lanw Uchel - Caerleon Road

I liniaru llifogydd ar adegau o lanw uchel iawn, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi trefnu gosod rhwystr amddiffyn rhag llifogydd ar draws Caerleon Road ar sail dros dro yn ystod ychydig oriau’r llanw uchaf. Pan fydd y rhwystr hwn ar waith, bydd ffyrdd ar gau a gwyriadau traffig yn eu lle. 

Dylech nodi y rhagwelir llanw uchel yn y dyddiau nesaf a bod posibilrwydd y bydd y rhwystr yn cael ei ddefnyddio. 

Os bydd angen defnyddio'r rhwystr llifogydd, bydd Caerleon Road ar gau am tua 2-3 awr y naill ochr a'r llall i'r llanw uchel. Bydd y ffordd ar gau i'r de o'r gyffordd rhwng New Road a Caerleon Road. Bydd arwyddion priodol yn cael eu harddangos gan Gyngor Dinas Casnewydd a rhoddir llwybr dargyfeiriad ar waith.

Lawrlwytho'r Caerleon Road flooding traffic diversions plan (pdf) 

Lawrlwytho'r Caerleon Road briefing document (pdf)