Cerbydau wedi'u gadael

Rhoi gwybod am gerbydau wedi'u gadael

O ran cerbydau wedi'u gadael ar briffordd yn ardal Casnewydd, cysylltwch â Heddlu Gwent ar (01633) 838111 neu 101.

O ran cerbydau wedi’u gadael mewn ardaloedd tai a reolir gan Tai Dinas Casnewydd, cysylltwch â Tai Dinas Casnewydd ar (01633) 381111.

O ran pob cerbyd arall sydd wedi’i adael ar dir y cyngor, cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd.

Y tu allan i oriau agor y cyngor

Y tu allan i oriau gwaith y cyngor, os bydd swyddog yr heddlu neu warden diogelwch cymunedol o'r farn bod cerbyd wedi'i adael ac y dylid ei symud, bydd y cyngor yn ei symud ac yn ei waredu os yw'r cerbyd yn bodloni’r meini prawf canlynol:

  • dim ond un perchennog blaenorol sydd ganddo
  • nid oes ganddo dreth ffordd gyfredol
  • mae mewn cyflwr peryglus a/neu yn fygythiad i fywyd pobl
  • mae’n peri risg iechyd neu amgylcheddol i'r cyhoedd
  • mae’n peri risg ddifrifol o dân

Ni chaiff y cerbydau hyn eu storio, ac ni fyddwn yn gwneud dim gyda cherbyd os nad yw’n achosi rhwystr.