Graeanu

Paratoi ar gyfer y gaeaf

Cyngor gan Y Swyddfa Dywydd ar gadw’n gynnes ac yn iach wrth deithio neu os byddwch gartref y gaeaf hwn. 

Ffyrdd

Mae’r cyngor yn graeanu’r ffyrdd fel bod llai o oedi oherwydd tywydd garw ac i helpu cadw ffyrdd yn ddiogel.

Mae blaenoriaeth yn cael ei rhoi i balmentydd a llwybrau canol y ddinas a’r rhai sy’n arwain at ysgolion, ysbytai a darparwyr gofal.

Mae gweddill y rhwydwaith yn cael ei flaenoriaethu yn ôl ei ddefnydd a’r risg bosibl.

Gweld llwybrau graeanu

Biniau graean

Mae biniau graean yn cael eu darparu i bobl glirio ffyrdd a llwybrau’r gymdogaeth pan fydd eira a rhew.

Mae’r gro yn y biniau gro melyn ar gyfer ffyrdd a phalmentydd cyhoeddus yn unig - ni ddylid defnyddio’r gro hwn ar eiddo preifat e.e. dreifiau.

I glirio eich dreif neu lwybrau efallai y byddwch yn dymuno prynu halen neu gro gan gyflenwyr deunyddiau adeiladu lleol neu siopau gwaith y cartref, neu ddefnyddio halen bwrdd neu halen peiriant golchi llestri.

Dod o hyd i’ch bin graean agosaf

 cais am ail-lenwi bin graean