Toiledau cyhoeddus

Mae toiledau at ddefnydd y cyhoedd wedi eu lleoli yn yr adeiladau canlynol.

Gweler map toiledau Cymru gyfan Llywodraeth Cymru ar gyfer y cyfleusterau a’r oriau agor.

Parciau

  • Parc Beechwood
  • Parc Belle Vue
  • Parc Tredegar

Canol y Ddinas

  • Oriel Gelf, Amgueddfa a Llyfrgell Casnewydd
  • Friars Walk Canolfan Siopa
  • Y Ganolfan Ddinesig

Hamdden

  • Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd, Sbyty
  • Canolfan Ymwelwyr Fourteen Locks
  • Canolfan Ymwelwyr y Bont Gludo

Canolfannau Cymunedol

  • Alway
  • Canolfan Beaufort, Sain Silian
  • Y Betws
  • Neuadd y Dref Caerllion
  • Gaer
  • Maesglas
  • Moorland
  • Ringland
  • Rivermead
  • Shaftesbury

Strategaeth Toiledau Lleol

Mae'n ofynnol i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru fabwysiadu a gweithredu Strategaeth Toiledau Lleol fel sy'n ofynnol gan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017. Nid yw'r ddyletswydd i baratoi strategaeth toiledau lleol yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu a chynnal toiledau cyhoeddus yn uniongyrchol.

Rhaid bod gan y Cyngor farn strategol ar sut gellir darparu cyfleusterau toiled i’r boblogaeth leol a sut y gall y boblogaeth honno eu defnyddio.  Nod y Strategaeth yw hwyluso darpariaeth barhaus o gyfleusterau toiled, drwy ddulliau uniongyrchol ac anuniongyrchol ac mae'n ymrwymo'r Cyngor a'n partneriaid i wneud penderfyniadau hirdymor cynaliadwy yn y maes iechyd cyhoeddus hwn.

Mae'r Strategaeth yn ei gwneud yn ofynnol i Gyngor Dinas Casnewydd a'i bartneriaid yn y sectorau cyhoeddus a phreifat asesu ac ystyried anghenion y cyhoedd yn y penderfyniadau a wnânt ynghylch darpariaeth toiledau, nawr ac yn y dyfodol. 

Lawrlwythwch y Strategaeth Toiledau Lleol (pdf)