Radon

Mae radon yn nwy ymbelydrol naturiol sy’n cael ei gynhyrchu gan fathau penodol o greigiau a phriddoedd ar draws rhannau mawr o’r Deyrnas Unedig.

Nid oes ganddo flas, arogl na lliw ac mae angen dyfeisiau arbennig i’w fesur.

Gall radon gael ei anadlu i mewn a’i amsugno, ac mae pobl sy’n dod i gysylltiad â lefelau uchel o radon yn fwy tebygol o gael canser yr ysgyfaint.

Er bod y rhan fwyaf o Gasnewydd yn cael ei hystyried yn ‘ardal a allai gael ei heffeithio gan radon’, mae mwyafrif yr eiddo yn annhebygol o gael eu heffeithio gan lefelau uchel, niweidiol posibl o nwy radon.

O dan Reoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999, mae’n ofynnol i gyflogwyr asesu risgiau o radon mewn gweithleoedd mewn ardaloedd sydd wedi’u heffeithio gan radon.

Ewch i wefan Radon Public Health England am ragor o wybodaeth.