Sŵn o'r stryd

Mae gan y cyngor ddyletswydd statudol i ymchwilio i gwynion am sŵn o'r stryd, gan gynnwys cerbydau, peiriannau ac offer sy'n cynnwys uchelseinyddion.  

Mae'n drosedd defnyddio uchelseinydd yn y stryd: 

  • rhwng 9pm ac 8am at unrhyw ddiben ac
  • ar unrhyw adeg arall ar gyfer hysbysebu unrhyw adloniant, masnach neu fusnes

Mae eithriadau i hyn yn cynnwys:

  • uchelseinyddion sy'n cael eu defnyddio gan y gwasanaethau brys
  • systemau cerddoriaeth cerbydau sy'n cael eu defnyddio er adloniant personol y gyrrwr
  • corn cerbydau a ddefnyddir i rybuddio traffig arall
  • cân fan hufen-iâ rhwng 12 ganol dydd a 7pm

Yn y sefyllfaoedd hyn, ni ddylai'r uchelseinydd roi unrhyw achos rhesymol dros greu anniddigrwydd i bobl eraill gerllaw.

Gall unrhyw un sy'n gweithredu uchelseinydd y tu hwnt i'r amodau hyn gael ei erlyn yn awtomatig a gallai wynebu dirwy o hyd at £5,000 os bydd llys ynadon yn ei gael yn euog.

Os bydd niwsans sŵn statudol yn cael ei gadarnhau, gallai'r cyngor fwrw ymlaen â chamau ffurfiol yn erbyn unigolyn trwy gyflwyno hysbysiad atal.

Darllenwch sut rydyn ni'n delio â chwynion am sŵn