Taflenni dyddiadur
Mae llenwi taflenni dyddiadur niwsans sŵn yn helpu i gofnodi gwybodaeth werthfawr sy'n dweud pryd mae'r sŵn yn digwydd.
Gall y wybodaeth sy'n cael ei chofnodi gael ei defnyddio hefyd fel tystiolaeth mewn unrhyw achos ffurfiol, felly mae'n hanfodol bod y taflenni dyddiadur yn gynhwysfawr, yn gywir ac yn berthnasol.
Canllawiau ar gyfer llenwi'r taflenni
- Gwnewch yn siwr bod y dyddiad a'r amser yn gywir a bod y diwrnod a'r dyddiad yn cyfateb
- Os bydd y sŵn yn digwydd dros ddau ddiwrnod (h.y. 11pm nos Sadwrn tan 4am fore Sul), rhowch naill ai'r dyddiad dechrau yn unig, neu'r ddau
- Ar gyfer sŵn sy'n digwydd bob hyn a hyn, fel ci yn cyfarth, ceisiwch roi awgrym mor gywir â phosibl o'r patrwm
- Peidiwch â chofnodi pob sŵn; cadwch y cofnodion yn y dyddiadur yn fyr, yn gryno ac yn berthnasol i sŵn sy'n ormodol ac yn afresymol yn unig
- Mae'n bosibl y bydd angen i chi gadw taflenni dyddiadur am gyfnod hir ac, mewn sawl achos, hyd nes bod y broblem wedi'i datrys
Os yw ymchwiliad yn cael ei gynnal i'ch cwyn, anfonwch eich taflenni at y swyddog ymchwilio bob rhyw saith i ddeg diwrnod er mwyn monitro'r sefyllfa - cadwch mewn cysylltiad.