Sŵn masnachol

Darllenwch sut rydyn ni'n delio â chwynion am sŵn

Safleoedd adeiladu

Dyma'r oriau gwaith sy'n cael eu hargymell, oni bai bod y cyngor yn cytuno'n wahanol: 

  • dylai gwaith stancio gael ei wneud rhwng 8am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener yn unig, ac nid ar ddydd Sadwrn, dydd Sul nac ar wyliau banc
  • dylai gwaith adeiladu heblaw am waith stancio gael ei wneud rhwng 8am a 6pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 8am ac 1pm ar ddydd Sadwrn.
  • Mae angen caniatâd ymlaen llaw ar gyfer unrhyw waith adeiladu a wneir y tu allan i'r amseroedd a ganiateir ac ar ddydd Sul a gwyliau banc.

Bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn gorfodi'r canllawiau argymelledig hyn lle bo'r angen. 

Pennu'r gwaith

Er mwyn helpu i leihau'r sŵn o waith adeiladu neu ddymchwel, gall y cyngor bennu sut dylai'r gwaith gael ei wneud. 

Fel arfer, bydd y cyngor yn gwneud hyn dim ond pan fu problem hysbys â'r ffordd mae'r contractwr yn gweithredu.

Mae gan y cyngor 28 niwrnod o'r dyddiad y daw cais i law i benderfynu p'un a yw cynllun rheoli sŵn y contractwr yn dderbyniol a ph'un a ddylid gosod unrhyw amodau.

Dylai contractwyr wneud cais am ganiatâd ymlaen llaw i: 

Rheoli Llygredd, Amddiffyn y Cyhoedd, Cyngor Dinas Casnewydd, Y Ganolfan Ddinesig, Casnewydd NP20 4UR
Ffôn: (01633) 656656
Defnyddiwch y ffurflen gysylltu ar-lein 

Rhoi gwybod am niwsans sŵn