Llygredd golau

Llygredd golau yw golau di-groeso o oleuadau stryd, arwyddion neon a ffynonellau eraill o olau artiffisial.

Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd i ymchwilio i gwynion am olau artiffisial a all fod yn achosi niwsans, er na allant ymchwilio i gwynion am olau o safleoedd fel meysydd awyr, safleoedd rheilffordd, ac ati, lle y mae angen golau ar gyfer diogelwch.

Gan nad oes unrhyw lefelau golau wedi'u pennu i ddangos beth sy'n niwsans statudol, bydd nifer o ffactorau'n cael eu hystyried, gan gynnwys hyd, amlder ac effaith y golau. 

Er mwyn i olau artiffisial fod yn niwsans statudol, rhaid i'r golau fod yn ormodol neu'n cynhyrchu lefel afresymol o olau ar gyfer yr ardal, a rhaid iddo fod yn effeithio arnoch chi yn eich eiddo, e.e. mae'r golau'n goleuo ffenestr eich ystafell wely yn uniongyrchol.

Os bydd camau anffurfiol drwy esbonio'r mater i'r person sy'n gyfrifol yn methu, mae'n bosibl y byddwch eisiau cysylltu â Chyngor Dinas Casnewydd.

Gallai'r swyddog achos farnu bod y golau'n annifyr, ond na ellir ei ystyried yn niwsans statudol. 

Mae Adran 82 Deddf Amddiffyn yr Amgylchedd 1990 yn caniatáu i unigolyn weithredu drwy'r llys ynadon, ar y sail fod golau sy'n niwsans yn peri trallod i chi.

Dylech geisio cyngor cyfreithiol cyn dilyn y llwybr hwn.