ECO-Sêr

ECO Stars logo header

Cynllun cydnabod fflydoedd gwirfoddol yw ECO-Sêr sy’n annog ac yn cefnogi gweithredwyr HGVs, faniau a bysus i redeg eu fflydoedd yn fwy effeithlon a gwella safon aer lleol.

Mae’r cynllun yn wirfoddol ac yn hollol am ddim.

Bydd lleihau defnydd tanwyddau yn arbed arian ac yn helpu i leihau allyriadau sy’n niweidiol i iechyd a’r amgylchedd. 

Bydd eich fflyd yn cael ei sgorio (yn weithredol ac yn amgylcheddol) o 1-5 gan arbenigwyr diwydiannol fydd yn rhoi cyngor ar sut i wella effeithlonrwydd y fflyd. 

Sut i ymuno

Mae’r cynllun ECO-Sêr ar agor i’r cyhoedd neu unrhyw fusnes sector preifat sy’n gweithredu cerbyd(au) masnachol (faniau, HGVs, LGVs, bysus a bysus moethus). 

E-bost [email protected], ffoniwch 01344 770700 neu ewch iwefan ECO-Sêri gael rhagor o fanylion. 

Cafodd y cynllun ECO-Sêr ei sefydlu gan grŵp o awdurdodau lleol yn Ne Swydd Efrog yn 2009 sydd bellach wedi tyfu i 25 o gynghorau ledled y DU.

Cyngor Dinas Casnewydd oedd y cyngor cyntaf yng Nghymru i ymuno â’r cynllun yn 2018.

Mae Transport Research Laboratory (TRL) yn cyflawni’r cynllun.

Cyswllt

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, e-bostiwch [email protected] 

TRA113697 7/1/2020