Maes Parcio Park Square

Mae gan faes parcio aml-lawr Park Square 395 o leoedd parcio gyda rampiau llydan a lifftiau i’r stryd fawr, gyda mynediad hawdd i siopau.

Mae saith lle parcio i bobl anabl. Mae staff ar y safle o 9am tan 9pm.

Mae mynediad i gerddwyr ar gyfer Park Square ar gael o Commercial Street gyferbyn â Chanolfan Siopa Ffordd y Brenin rhwng 7am a 7pm.

Amseroedd agor

Dydd Llun – Dydd Sadwrn, 6am – 9pm

Mae’r mynedfeydd yn cau am 8:30pm ac mae’r allfeydd yn cau am 9pm.

Cyfarwyddiadau

Gerllaw Eglwys Sant Paul, mae’r fynedfa i faes parcio Park Square o Commercial Street/Palmyra Place.

Gweld meysydd parcio ar fap My Newport

Prisiau

Hyd at 3 awr  = £2.60

Hyd at 5 awr   = £4.70

Dros 5 awr a hyd at 24 awr = £6.20