Oriau agor a Ffioedd y Cytiau Cŵn

Buster at Newport City Dogs Home

Oriau agor

Drwy apwyntiad a drefnwyd ymlaen llaw yn unig (01633 290902 neu [email protected])

Dydd Llun i ddydd Iau: 11am-1pm a 2pm-4.30pm

Dydd Gwener: 11am-1pm a 2pm-4pm

Dydd Sadwrn: 11am-1pm a 1.30pm-3pm 

Ffioedd cyfredol

Caiff cŵn sy’n mynd i mewn i’r cytiau cŵn eu gwirio ar gyfer salwch neu anafiadau a chânt eu trin gan filfeddyg os oes angen.

Mae gan berchnogion saith diwrnod i hawlio eu ci a gwneir pob ymdrech gan y wardeiniaid a staff y cytiau cŵn i gysylltu â pherchnogion.

Codir ffi am y gwasanaeth hwn y mae'n rhaid ei dalu cyn i'r ci gael ei gasglu (derbynnir arian parod). 

Cŵn a gaiff eu hawlio ar ôl 4 awr £52 y ci

Cŵn a gaiff eu hawlio ar ôl un diwrnod £108.16 y ci

Cŵn a gaiff eu hawlio ar ôl dau ddiwrnod £123.60 y ci

Cŵn a gaiff eu hawlio ar ôl tri diwrnod £142.48 y ci

Cŵn a gaiff eu hawlio ar ôl pedwar diwrnod £155.53 y ci

Cŵn a gaiff eu hawlio ar ôl pum diwrnod £174.72 y ci

Cŵn a gaiff eu hawlio ar ôl chwe arhosiad dros nos £190.32 y ci

Cŵn a gaiff eu hawlio ar ôl saith arhosiad dros nos £206.96 y ci

Cŵn a gaiff eu hawlio ac sy’n aros yn y cytiau cŵn am gyfnod estynedig (ffi fesul noson) £12.00 y ci

At hynny, os yw'r Cyngor wedi canfod bod angen talu am wasanaeth ychwanegol i'r ci gan gynnwys y ddarpariaeth y tu allan i oriau neu driniaeth filfeddygol, dylid trosglwyddo'r ffioedd i'r perchennog sy'n hawlio’r ci. Fodd bynnag, mewn amgylchiadau anarferol, rhoddir disgresiwn i Swyddog y Cytiau Cŵn o ran y ffi.

Ffioedd ailgartrefu

Mae pris pob ci yn amrywio a bydd yn cael ei sefydlu gan ystyried nodweddion pob ci.

  • Os yw'r ci wedi cael triniaeth gan filfeddyg bydd y gost yn cael ei hadennill oddi wrth y sawl sy'n hawlio
  • Os bydd corff arall sydd wedi'i awdurdodi i ddelio â chŵn crwydr yn defnyddio'r cytiau cŵn, codir ffi
  • Mewn amgylchiadau anarferol, rhoddir disgresiwn i Swyddog y Cytiau Cŵn o ran y ffi