Gorchmynion rheoli cŵn

Mae’r Gorchmynion Rheoli Cŵn canlynol wedi’u cyhoeddi gan Gyngor Dinas Caerdydd:

1. Gorchymyn Rheoli Cŵn - cŵn yn baeddu tir

2. Gorchymyn Rheoli Cŵn – mynwentydd Casnewydd: 

Wedi’i gyflwyno ym mis Ionawr 2009 ac yn cwmpasu mynwentydd Christchurch, Caerllion a St. Woolos, mae’r gorchmynion yn rheoli’r canlynol:

  • methu â chodi baw ci 
  • methu â chadw ci ar dennyn sydd dim mwy na 1.5 metr o hyd

3. Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (Rheoli Cŵn) 2022

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi rhoi Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC) ar waith ar gyfer parciau a mannau agored.

Mae'r Gorchymyn hwn yn berthnasol i'r holl Fannau Cyhoeddus yn Ninas a Sir Casnewydd a diben y gorchymyn fydd gorfodi perchnogaeth gyfrifol ar gŵn.

Daw’r Gorchymyn i rym ar 21 Tachwedd 2022 a bydd yn parhau mewn grym am 3 blynedd o’r dyddiad hwn, oni bai y caiff ei ymestyn gan orchmynion pellach a wneir dan bwerau statudol y Cyngor.

Dysgwch fwy am y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus