Coelcerthi

Os ydych chi'n pryderu bod coelcerth wenfflam allan o reolaeth neu mewn man peryglus, ffoniwch 999 a gofyn am y gwasanaeth tân. 

Os ydych chi'n pryderu am goelcerth heb ei chynnau eto, sydd ar dir, parciau a meysydd chwarae agored y cyngor, rhowch wybod i'r cyngor amdanynt fel y gallant gael eu harchwilio a'u symud os ystyrir eu bod yn beryglus.

Arweiniad cyffredinol 

  • Byddwch yn gwrtais a rhowch wybod i'ch cymdogion cyn cynnau coelcerth
  • Gwnewch yn siwr mai deunydd sych yn unig sy'n cael ei losgi
  • Peidiwch â llosgi sbwriel y cartref, teiars rwber nac unrhyw beth sy'n cynnwys plastig, sbwng neu baent
  • Peidiwch â defnyddio hen olew injan, gwirod methyl na phetrol i gynnau neu gyflymu'r tân
  • Ceisiwch osgoi cynnau tân mewn tywydd anaddas – mae mwg yn aros yn yr aer ar ddiwrnodau llonydd, tamp a chyda'r nos. Os bydd hi'n wyntog, gallai mwg gael ei chwythu i ardd cymydog neu ar draws ffyrdd
  • Ceisiwch osgoi cynnau coelcerth ar y penwythnos ac ar wyliau banc pan fydd pobl eisiau mwynhau'r ardd

Cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd